Preswyliadau artist orielysium/ elysiumgallery
E: jonathan@elysiumgallery.com
Dyddiad cau: Dydd Llun 5ed o Fedi, 2016
Amser: 17:00
Pwy: Mae orielysium/ elysiumgallery yn falch o gyhoeddi 2 cyfle preswyl i artistiaid am gyfnod o 3 mis yn eu stiwdios ar Stryd Fawr, Abertawe, yn arwain at arddangosfa unigol i gymryd lle yn Oriel Elysium ar Stryd y Coleg. Mae’r cyfle hwn yn agored i artistiaid y DU sydd wedi graddio (BA) o 2012 ymlaen.
Pryd:
Preswyliad 1. Ionawr-Mawrth 2017 gyda’r arddangosfa Mai 19 – Mehefin 17
Preswyliad 2. Ebrill-Mehefin 2017 gyda’r arddangosfa 15 Medi – 14 Hydref
Taliadau: Mae taliad o £1000 (£500 preswyliad a ffi arddangos, £500 cyllideb deunyddiau), gofod stiwdio rhad ac am ddim gydag arian ychwanegol tuag at sefydlu’r arddangosfa.
Manylion: Bydd gennych fynediad 24 awr at eich stiwdio (12 troedfedd x 8 troedfedd) lle byddwch yn derbyn amser a chefnogaeth i ymchwilio a datblygu eich ymarfer. Yn ystod y cyfnod preswyl, bydd gofyn i chi ddarparu mewnbwn i blog orielysium/ elysiumgallery trwy ddyddiadur stiwdio a hefyd cyfarfod â phob un o fentoriaid tîm oriel Elysium yn ystod y preswyliad ac yn y cyfnod yn arwain at eich arddangosfa.
Mae’r mentoriaid yn cynnwys:
Jonathan Powell & Daniel Staveley o Oriel Elysium, Katy Freer o Oriel Glynn Vivian, Amanda Roderick o Oriel Mission & Craig Wood, Arlunydd & Darlithydd.
Rydym yn hyblyg o ran yn union faint o’r 3 mis rydych yn gwario yn Abertawe/ y stiwdio, oherwydd yr anhawsterau teithio pellteroedd maith i Abertawe ac ymrwymiadau eraill; rhowch syniad i ni o’ch sefyllfa yn eich cynnig.
Er ymwybyddiaeth, gall oriel Elysium helpu gyda dod o hyd i lety, ond oherwydd ataliadau cyllideb bydd angen i ymgeiswyr i’r rhaglen hon chwilio am arian ychwanegol os yn gwario dros y taliadau preswyl/ arddangosfa.
Gwneud cais: Croesewir ceisiadau gan artistiaid o bob disgyblaeth.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw y 5ed o Fedi, 2016.
Dylai ceisiadau drwy e-bost gynnwys cynnig o sut byddech yn defnyddio’r cyfle (uchafswm 1000 gair), yn disgrifo’ch ymarfer, eich nodau a’ch amcanion, gyda hyd at 6 delwedd JPEG, CV, manylion cyswllt a dolenni gwefan.
Bydd rhestr fer o 10 o ymgeiswyr yn cael eu dewis gan orielysium/ elysiumgallery a bydd y ddau artist terfynol yn cael eu dewis gan y tîm o fentoriaid.
E-bostiwch ceisiadau i: jonathan@elysiumgallery.com www.elysiumgallery.com
Gwybodaeth Ychwanegol:
Ynglŷn ag orielysium/ elysiumgallery & stiwdios
Mae orielysium yn fenter hunangynhaliol a arweinir gan artistiaid, yn cynnwys mannau gweithio artistiaid ac oriel celf gyfoes dros 3 safle yng nghanol dinas Abertawe, Cymru, DU. Rydym yn cefnogi 13 o stiwdios artistiaid ac oriel yn 16 Stryd y Coleg, Abertawe, 13 stiwdio yn 2 Stryd Mansel, Abertawe, a 37 stiwdio gyda mannau prosiect ac adnoddau eraill ar lawr uchaf o 27-29 Stryd Fawr, Abertawe. Ar hyn o bryd rydym yn gofalu am dros 100 o artistiaid yn ein mannau stiwdio.
Mae’r stiwdios yn ffurfio cymuned artistig sy’n galluogi artistiaid ac orielysium/ elysiumgallery i gefnogi eu gilydd trwy drafodaethau gritigol, cyfleoedd preswyl, cydweithredu a rhannu sgiliau ymarferol. Mae’r stiwdios yn meithrin profiad cydweithredol a chyfranogol, yn creu canolbwynt bywiog a chreadigol tra’n annog datblygiad o fodelau busnes ar gyfer cynaliadwyedd artistig, yn cyfrannu at yr economi leol a chadw artistiaid o fewn Dinas Abertawe.
Ar hyn o bryd mae prosiect stiwdio’r Stryd Fawr yn gartref i 37 stiwdio, ardal prosiect, mannau cymunedol a nifer o raglenni preswyl. Ein nod yw creu fframwaith ar gyfer byd o syniadau ac ysbrydoliaeth a fydd yn bwydo i mewn i adfywio’r Stryd Fawr, a thu hwnt i hyn, bwydo i mewn i gymuned diwylliannol Abertawe a Chymru.