Richard Williams – Artist Preswyl

Richard Williams

Artist Preswyl

Chwefror 24ain – Mawrth 22ain

Come get it while it’s cold

Chwefror 23ain – Ebrill 7fed

Artist preswyl gyntaf 2018 yn oriel elysium yw Richard Williams. Gan ddefnyddio’r cyflwr dynol fel ysgogiad, yn benodol sut mae marwolaethau a gwybodaeth ohono’n siapio ein bodolaeth, bydd Williams yn archwilio’r themâu hyn a defnyddio’r preswyliaeth i greu corff o waith newydd.

‘Rydw i’n cael fy synnu’n gyson gan yr hyn rydym yn medru gwneud i’n gilydd ac i natur trwy gariad ar y naill llaw, ac ofn ar y llall, a thrwy’r systemau meddyliol rydym yn creu i gyfiawnhau’r pethau yma, a meddyliaf am y gwrthddywediadau hyn yn rheolaidd. Mae hyn yn golygu bod fy ngwaith yn aml yn dywyll ac o bosib yn besimistaidd, ond rwyf hefyd yn cynnwys gobaith ble bynnag yr wyf yn ei weld.’

Mae atmosffer, hwyliau, lliw a golau yn gynhwysion pwysig o baentiadau Williams, sy’n gipluniau o stori nas dywedwyd.

Mae’r corff o waith hwn yn ymwneud â’r syniad o ddatgysylltiaeth dynoliaeth oddi wrth, ac ecsbloetiaeth o, yr ecosystem, yn benodol gyda’r disbyddiad enfawr a chynyddol presennol o boblogaethau pryfed yn Ewrop.

‘Rydw i’n dueddol o roi llawer o oriau i mewn i’m paentiadau ac felly mae’r rhan preswyl o’r casgliad hwn yn arbrawf mewn creu darnau ar fwy o gyflymder, yn gweithio o’m propiau a delweddau yn y gofod oriel gyda therfyn amser uchaf o ddau ddiwrnod y darn, i weld ble mae hyn yn fy arwain.’

Astudiodd Richard ddarlunio yn Athrofa Abertawe o 1998-2001 ac ers hynny mae ei ffocws wedi symud yn raddol tuag at waith sy’n llai eglur yn ei fwriad.

Bydd yr artist yn defnyddio’r oriel fel stiwdio beintio o Fawrth 24 – Mawrth 22ain yn dilyn ei arddangosfa ‘Come get it while it’s cold’ a fydd yn rhagolygu ar ddydd Gwener 23ain o Fawrth ac yn rhedeg tan 7fed o Ebrill.

Bydd y cyhoedd yn cael ei gwahodd i mewn i’r stiwdio ar adegau penodol yn ystod y cyfnod preswyl a byddwch yn gallu dilyn datblygiadau gwaith yr artist ar Instagram @richardwilliamsisme ac ar sianeli cyfryngau cymdeithasol oriel elysium (Twitter, Facebook ac Instagram).

www.elysiumgallery.com