Stiwdio

Mae cymuned creadigol Abertawe wedi derbyn hwb enfawr gyda’r newyddion y bydd OrielElysium yn agor 35 stiwdio ychwanegol yng nghanol y ddinas.

Cafodd OrielElysium ei sefydlu yn 2007 ac erbyn hyn mae’n darparu 60 o lefydd creadigol dros 3 lleoliad yng nghanol Dinas Abertawe ar gyfer ystod eclectig o ymarferwyr gan gynnwys artistiaid gweledol cain, ffotograffwyr, darlunwyr, dylunwyr, ysgrifenwyr a llawer mwy.

Ar hyn o bryd mae OrielElysium yn darparu 12 o stiwdios ac un oriel yn 16 Stryd y Coleg a 13 stiwdios yn 2 Stryd Mansel. Bydd y lleoliad newydd yn y Stryd Fawr yn gartref i 35 stiwdio, oriel/ardal arbrofi, llyfrgell ac ardal ymchwil cymunedol, a’r rhaglen artist preswyl sy’n rhedeg mewn cydweithrediad â Galerie Simpson ac Oriel Mission.

Mae prosiect stiwdio’r Stryd Fawr yn ceisio meithrin profiad cydweithredol a chyfranogol, a chreu cymuned bywiog a chreadigol. Ein nod yw creu fframwaith ar gyfer byd o syniadau ac ysbrydoliaeth fydd yn bwydo i mewn i adfywio’r Stryd Fawr.

Mwymwy, mae OrielElysium yn gweithio mewn partneriaeth gydag orielau eraill a cholegau celf i greu rhaglenni sy’n cwrdd ag anghenion artistiaid a graddedigion diweddar.

Cydweithredu yw nod allweddol prosiect stiwdios OrielElysium a byddwn bob amser yn chwilio am ffyrdd arloesol i ddod a phawb sydd âg awydd i greu a rhannu at eu gilydd.

Er mwyn creu cymuned ffyniannus a chefnogol, rydym yn mynd ati i geisio cymryd artistiaid sydd:

  • Âg agwedd gymunedol, yn rhannu ein hymrwymiad i dwf a datblygiad y celfyddydau yn Abertawe
  • Yn barod i ddefnyddio eu stiwdios yn rheolaidd
  • Yn fodlon cyfrannu yn deg ac yn ymgysylltu â datblygiad eu stiwdio a’r prosiect yn ei gyfanrwydd

Mae OrielElysium wedi datrys problem sy’n gwynebu llawer o artistiaid yma yn Abertawe – diffyg lle stiwdio addas a fforddiadwy. Mae’r ganolfan yma yn fenter arloesol a fydd wir yn helpu’r diwydiannau creadigol a busnesau lleol eraill o fewn Dinas Abertawe Canolog. Bydd hefyd yn chwarae rhan bwysig yn adfywio’r gymuned leol trwy roi swyddfeydd gwag i ddefnydd da. Trwy hon, mae’n parhau i wneud cyfraniad hanfodol i ddatblygiad celf a gyrfaoedd artistiaid trwy ddarparu mannau gwaith fforddiadwy a rhaglenni cymorth.

Mae stiwdios ar gael i renti, yn dechrau o £45 y mis.

E-bostiwch jonathan@elysiumgallery.com am ragor o wybodaeth.