Mae oriel elysium yn parhau gyda’i gyfres o sgyrsiau arbennig ar-lein ac yn eich gwahodd i ddigwyddiad penodedig Zoom.
Sgwrs Artist: Gordon Dalton
Amser: Medi’r 9fed, 7.30yh, amser DU
Ymunwch â’r cyfarfod zoom:
https://us02web.zoom.us/j/83290503621?pwd=YTl4N2hGckFaZGduU3NxVm8xaWpxdz09
ID’r Cyfarfod: 832 9050 3621
Côd: 511692
Bydd Gordon Dalton yn trafod rhai o’r dylanwadau a’r themâu yn ei waith cyn ei sioe unigol ‘Dead Reckoning‘ yng ngofod The Auxilary Project, Middlesbrough.
Mae Gordon hefyd yn un o’r artistiaid yng Ngwobr Peintio Beep/ Arddangosfa Eilflwydd Beep, a arweinir gan oriel elysium sydd yn agor ar Ddydd Sadwrn, Hydref y 3ydd.
‘Mae fy mhaentiadau yn ymhyfrydu yn y dathliad o beintio, gan ofyn i’r gwyliwr edrych yn hirach ac yn galetach ar beth yw peintio, a pham mae’n parhau i fod yn chwilfrydig a hynod ddiddorol’.
Mae gan fy mheintiadau bwnc go iawn (tirwedd), ond mae’r peintiadau’n ddyfais, yn llawn cyferbyniadau a natur ddigymell. Mae’r dull sy’n ymddangos yn ddidaro yn gwadu unrhyw finesse arwynebol i ddatgelu cariad am ddelweddau lletchwith, lliwiau llygredig a gramadeg geciog gwael. Mae ganddyn nhw wrthddywediad pryderus, gyda’r gwaith yn hunanymwybodol o’r hyn ydyw, ei fethiannau posib, ond eto’n ymdrechu am y pleser syml o edrych a pherthynas un i un â pheintiad.
Maen nhw’n cyfuno atgofion o leoedd rydw i wedi byw, ymweld â nhw neu ddychmygu’n hiraethus yn ogystal â chyfeiriadau at leoedd arwyddocaol a hanes celf. Nid yw’r peintiadau hyn yn uniongyrchol o’r peintiadau neu’r lleoedd hyn, ond yn hytrach o syniad o le a’r prudd-der o hiraeth ac eisiau perthyn. Rhamantiaeth anffasiynol wedi’i seilio yn y weithred o beintio’
BIO:
Artist wedi’i lleoli yn Saltburn, DU, yw Gordon Dalton. Yn ddiweddar, fe orffennodd preswylfa URRA yn Yr Ariannin, gyda sioeon ddiweddar yn cynnwys Academi Frenhinol, Llundain; Middlesbrough; DEDA, Derby; MIMA, Middlesbrough; Bank Art; Los Angeles; Del Infinito, Buenos Aires; JirSandel, Copenhagen; Arcade, Llundain; Oriel Keith Talent, Llundain; Oriel Celf Newlyn Art Gallery & Exchange, Penzance; CAC, Vilnius; Oriel David Risley, Copenhagen; Bay Art, Caerdydd; Oriel Cynthia Broan, Efrog Newydd; Oriel ac Amgueddfa Moravian, Brno; Oriel Castlefield, Manceinion; Oriel Trade, Nottingham; Sgyrsiau mewn Peintio, Darlington; Oriel Mission, Abertawe, Gwobr Peintio Cyfoes Prydeinig , Richmond; Gwobr Peintio Beep, Abertawe.
Mae sioeau cyfredol a rai sydd ar ddod yn cynnwys Legacy: 50 Years of Painting from the
Tees Valley (Etifeddiaeth: 50 mlynedd o Beintio o Gwm Tees), Auxiliary, Middlesbrough; Oriel Terrace, Llundain; Mountain Size: Contemporary British Painters (Maint Mynydd: Peintwyr Cyfoes Prydeinig), Pineapple Black, Middlesbrough;
Mae’n aelod o Beintio Cyfoes Prydain ac yn cael ei gynrychioli gan Oriel LLE/ Aleph Contemporary.