Y wlad ddychmygol o berthyn


Event Details

  • Date:
  • Categories:

Julieta Anaut | Luiza Possama Kons | Lorena Marchetti

Y wlad ddychmygol o berthyn

Rhagflas: Dydd Gwener 4ydd o Hydref 7yh

Parhau tan 26ain o Hydref

Oriau agor y galeri – Dydd Sadwrn 11yb – 7yp

Fel rhan o Ŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol Ffoto Cymru, mae Ffotogallery, mewn partneriaeth ag Elysium, yn cyflwyno gwaith yr artistiaid Foto Féminas Julieta Anaut, Luiza Kons, a Lorena Marchetti. Mae’r rhwydwaith Foto Féminas yn darparu llwyfan i gynyddu amlygrwydd ffotograffwyr benywaidd/anneuaidd America Ladin a Charibïaidd

Mae Julieta Anaut yn artist gweledol o’r Ariannin sydd wedi ennill gwobrau o Rio Negro, Patagonia. Graddiodd o Instituto Universitario Patagónico de las Artes (LUPA) ac arbenigodd mewn Ieithoedd Artistig Cyfunol yn Universidad Nacional de las Artes (UNA). Mae ei gweithiau gweledol a chlyweledol wedi cael eu harddangos mewn amgueddfeydd, lleoliadau diwylliannol, a gwyliau ffilm ledled y byd.

Mae Luiza Possamai Kons yn arlunydd ffotograffig o Assis Chateaubriand yn rhanbarth gorllewinol Paraná, Brasil. Graddiodd gyda gradd Baglor mewn Newyddiaduraeth o Universidade Federal de Santa Catarina (2017), Gradd Meistr yn y Celfyddydau o Universidade Estadual do Paraná (2021), ac ar hyn o bryd yn fyfyriwr PhD mewn Hanes o Brifysgol Ffederal Paraná. Mae hi’n defnyddio ffotograffiaeth fel ddull gwleidyddol sy’n adlewyrchu perthnasoedd dynol a’i chysylltiadau.

Ffotograffydd a dylunydd graffeg yw Lorena Marchetti a ganwyd yn Buenos Aires, yr Ariannin, lle mae hi bellach yn byw ac yn gweithio. Ar ôl graddio fel dylunydd o Brifysgol Buenos Aires sefydlodd weithdai ffotograffiaeth a chlinigau celf gyda Gabriel Valansi, Diana Aisenberg a Guillermo Ueno. Ar hyn o bryd mae Lorena Marchetti yn cael ei chynrychioli gan oriel yn yr Ariannin, Galería Studio 488.