Hygyrchedd

Mae Oriel Elysium yn lleoliad hygyrch, gydag amrywiaeth o gyfleusterau i helpu i wneud eich ymweliad yn gyfforddus ac yn bleserus.

Mae ein tîm derbyn ymwelwyr cyfeillgar, sydd wedi’i leoli yn ardal y caffi, wastad yn hapus i’ch croesawu a chynorthwyo gydag unrhyw ofynion yn ystod eich ymweliad.

Cyfleusterau Hygyrch

Mae cyfleuster Newid Lleoedd (Changing Places) a thoiledau hygyrch ar gael ar y llawr gwaelod.

Parcio Hygyrch

Mae maes parcio aml-lawr wedi’i leoli wrth ymyl Oriel Elysium, gyda lleoedd parcio hygyrch dynodedig ar y llawr gwaelod. Mae mynedfa’r maes parcio ar Orchard Street.

Mynediad i Gadair Olwyn

Mae pob man cyhoeddus, ystafell ddosbarth ac ystafell digwyddiadau yn gwbl hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn. Mae mynediad i gadeiriau olwyn ar gael trwy fynedfa ein caffi ar Belle Vue Way.

Gwybodaeth Synhwyraidd

Mae Oriel Elysium yn gyffredinol yn amgylchedd tawel a chroesawgar, ond gall rhai mannau a gweithgareddau fod yn brysurach neu’n fwy swnllyd weithiau.

Sŵn: Gall rhai arddangosfeydd gynnwys gwaith celf sain, a all fod yn swnllyd ar adegau. Gall ein caffi hefyd ddod yn brysur, yn enwedig yn ystod digwyddiadau. Mae grwpiau, gweithdai a llogi ystafelloedd rheolaidd yn digwydd yn agos at yr oriel a gallant hefyd greu sŵn ychwanegol.

Goleuo: Gall lefelau goleuo yn y mannau arddangos amrywio, yn dibynnu ar y gwaith celf a dewisiadau’r artist sy’n arddangos. Gall rhai mannau fod yn oleuach neu’n dywyllach na rhannau eraill o’r adeilad.

Ystafell Dawel: Mae gennym ystafell dawel penodol sy’n cynnig lle tawel, di-gyffro, lle gall ymwelwyr gymryd seibiant, dad-gywasgu a rheoleiddio eu synhwyrau. Mae’r lle hwn ar gael i ymwelwyr niwroamrywiol ac unrhyw un a allai cael eu gorlethu gan unrywbeth yn ystod eu hymweliad.

Anifeiliaid Cymorth

Croesewir cŵn tywys, cŵn clywed a chŵn cymorth sydd wedi cofrestru ledled y lleoliad.

Gwasanaeth Tywys

Os oes angen cymorth arnoch gan aelod o’n tîm i’ch helpu i lywio’r adeilad, cysylltwch â ni ymlaen llaw fel y gallwn drefnu hyn i chi. Yn anffodus, ni allwn warantu gwasanaeth tywys i ymwelwyr sydd heb archebu ymlaen llaw.

Ebost: info@elysiumgallery.com