Niwro Fynegiant – Galwad am artistiaid niwroamrywiol

Niwro Fynegiant – Galwad am artistiaid niwroamrywiol 
 
Pwy: Artistiaid o’r DU 
 
Pryd: 10fed Ebrill – 16eg Mai 2026 
 
Ffioedd: Dim 
 
Taliad: Oes 
 
Lleoliad: oriel elysium, Abertawe, Cymru, DU 

Manylion 

Mae Oriel Elysium yn falch o gyflwyno, Niwro Fynegiant, arddangosfa grŵp sy’n gwahodd artistiaid sy’n uniaethu fel niwroamrywiol i archwilio a mynegi eu profiadau synhwyraidd, emosiynol, seicolegol neu gorfforol fel pobl niwroamrywiol, ac os ydynt yn dymuno, i herio’r naratifau a’r credoau negyddol sy’n amgylchynu eu niwroamrywiaeth. 

Pwy ddylai ymgeisio 

Rydym yn chwilio am artistiaid o’r DU, dros 18 oed, sy’n gweithio mewn unrhyw gyfrwng ac yn uniaethu fel niwroamrywiol. 

Sut i wneud cais 

Dylai cynigion ysgrifenedig fod ar ddim mwy nag un ochr o A4 fel dogfen PDF neu Word a chyd-fynd â hyd at 6 delwedd JPEG/ dolen i fideos o’ch gwaith.  
Os nad ysgrifennu yw eich peth chi, gallwch ddarparu ffilm fer neu recordiad yn egluro eich syniadau gyda dolenni i enghreifftiau ar-lein.  

Os oes unrhyw beth y gallwn ei wneud i wneud y broses ymgeisio yn haws i chi, mae croeso i chi ofyn.  

Anfonwch eich cynnig atom drwy e-bostio info@elysiumgallery.com 

Taliad 

Bydd y 10 artist llwyddiannus yn cael ffi artist o £500 ynghyd ag arian ychwanegol ar gyfer teithio a chyfarfodydd ar-lein.  

Dyddiad cau  

Dydd Sadwrn 24 Ionawr 2026 

Bydd yr artistiaid llwyddiannus yn cael gwybod erbyn Dydd Sadwrn 7 Chwefror.