Rhaglen llawn penwythnos Dydd Gŵyl Dewi!

Ymunwch â’n marchnad, arddangosfa, a lolfa acwstig rhwng 11-5 ar ddydd Sadwrn y 28ain, cyn lein-yp ardderchog o fandiau wedi eu harwain gan fenywod gyda’r nos.
Mae’r dangosiadau ffilm a’r farddoniaeth ar ddydd Sul yn agored i bawb.
Er mwyn mynychu ar nos Sadwrn – archebwch eich tocyn am ddim trwy dudalen Eventbrite yr Elysium.
Er mwyn archebu tocynnau i’r sgrinio neu’r i’r gweithdy ysgrifennu ar fore dydd Sul, ewch i dudalen Eventbrite Mioe yn y bio.
Diolch enfawr i bawb sydd wedi cyflwyno gwaith, neu wedi gwneud cais ar gyfer stondin, gig neu sgrinio. Rydym wedi cael ein gorlifo â diddordeb a diolch i bob un ohonoch am gefnogi’r prosiect hwn. Diolch i Lywodraeth Cymru am ein hariannu a rhoi cyfle gwych i ddathlu creadigrwydd Cymru!
