Ffoto Cymru 2026 – Paula Pedrosa: Natur Byw y Marw Gelain


Event Details

  • Date: –
  • Categories:

Ffoto Cymru 2026 

Paula Pedrosa: The Living Nature of the Stone-dead/ Natur Byw y Marw Gelain 

2/10/2026 – 31/10/2026 

Rhagolwg: 

Dydd Gwener 2il Hydref, 7yp  

Oriel ar agor Dydd Mercher – Dydd Sadwrn, 11yb – 5yp 

Mae Natur Byw y Marw Gelain/ The Living Nature of the Stone-dead yn brosiect ffotograffig ac ymchwil cyfredol gan y ffotograffydd a’r ymchwilydd o Frasil, Paula Pedrosa, sy’n archwilio’r berthynas rhwng amser daearegol, bywyd wedi marw a’r dirwedd gyfoes. 

Gan ddechrau gyda threftadaeth paleontolegol a daearegol gyfoethog Brasil, mae ffotograffau Pedrosa yn symud rhwng safleoedd ffosil, ffurfiannau daearegol, tirweddau, amgueddfeydd, casgliadau gwyddonol a labordai, ochr yn ochr â’r nifer o ffyrdd y mae bywyd cynhanesyddol yn cael ei ail-greu a’i ddychmygu heddiw. Mae ffosiliau a ffurfiannau daearegol yn eistedd ochr yn ochr â replicâu, modelau a chynrychioliadau cyfoes eraill o greaduriaid cynhanesyddol, gan ddatgelu sut mae ein hymdrechion i ddeall ac ail-greu’r gorffennol eu hunain yn rhan o’r presennol. 

Gan ddod ag ymchwil wyddonol ac arsylwi ffotograffig ynghyd, mae’r prosiect yn fwriadol yn dad-setlo’r ffiniau rhwng gwyddoniaeth a ffuglen, natur a diwylliant, ffaith a dychymyg. Mae mater daearegol yn cario hanesion helaeth ynddo, tra bod amgueddfeydd, arferion gwyddonol a delweddaeth boblogaidd yn ailgychwyn yr hanesion hynny’n barhaus trwy chwilfrydedd dynol, dehongli a datblygu gwybodaeth. Mae’r “marw gelain” sy’n ymddangos yn ddifywyd yn dod yn fyw yn annisgwyl. 

Mae Pedrosa yn ein gwahodd i edrych ar y dirwedd drwy safbwynt dyfnder amser, graddfa lle mae hanes dynol yn dod yn foment fer o fewn stori llawer hirach o drawsnewid, difodiant ac adnewyddu. Mae ei ffotograffau’n tynnu sylw at bethau sydd eisoes o’n cwmpas, ond y gallwn basio heibio heb sylwi arnynt, fel olion bywyd hynafol wedi’u hymgorffori mewn tirweddau, adeiladau ac amgylcheddau bob dydd. Drwy bwyntio ei chamera at y manylion hyn, mae Pedrosa yn gwneud y cyfarwydd yn weladwy o’r newydd, gan ein hannog i weld y byd a’r hanesion aruthrol sydd ynddo yn wahanol. Mae’r gwaith yn datgelu ehangder, cymhlethdod ac anhysbysrwydd y byd naturiol, gan ysgogi cwestiynau am ein lle o fewn grymoedd ac amserlenni sy’n ymestyn ymhell y tu hwnt i brofiad dynol. Beth allai’r hanesion hynafol hyn ei ddatgelu am ein perthynas â’r byd naturiol, a sut y gallent newid y ffordd yr ydym yn deall ein presennol ac yn dychmygu ein dyfodol? 

Am Ffoto Cymru 2026 

Gŵyl ffotograffiaeth ryngwladol Cymru yw Ffoto Cymru, sy’n dod ag artistiaid, ffotograffwyr, cymunedau a chynulleidfaoedd ynghyd ledled y wlad ar gyfer dathliad mis o ffotograffiaeth gyfoes a chreu delweddau. 

Yn digwydd o 2–31 Hydref 2026 ar draws 17+ o leoliadau ledled Cymru, bydd Ffoto Cymru 2026 yn dod âg arddangosfeydd, digwyddiadau, sgyrsiau, gweithdai a chyfleoedd i gysylltu â ffotograffiaeth ynghyd mewn ffyrdd newydd ac annisgwyl. 

Mae Mwy i Fywyd/ There’s More to Life 

Mae gŵyl eleni yn archwilio’r thema Mae Mwy i Fywyd — gwahoddiad i edrych y tu hwnt i bwysau bob dydd o gynhyrchiant, cynnydd a chyflymiad cyson, ac i ystyried gwahanol ffyrdd o fod, creu a chysylltu. 

Trwy ffotograffiaeth, mae Ffoto Cymru 2026 yn archwilio posibiliadau dyfodol eraill: ffyrdd o weithio a byw sy’n gwerthfawrogi gofal, chwilfrydedd, creadigrwydd, cymuned a dychymyg. Mae’r ŵyl yn gofyn sut y gallem greu lle ar gyfer chwarae, myfyrio, perthyn a safbwyntiau newydd mewn byd sy’n newid. 

Gan ddod ag artistiaid o Gymru a thu hwnt ynghyd, mae Ffoto Cymru yn dathlu ffotograffiaeth fel offeryn ar gyfer adrodd straeon, cwestiynu a dychmygu — gan greu mannau lle gall gwahanol brofiadau, syniadau a sgyrsiau ddod at ei gilydd.