Sgwrs artist: Zena Blackwell


Event Details

  • Date: –
  • Categories:

Sgwrs artist: Zena Blackwell
Mae peintiadau Zena Blackwell yn archwilio tirwedd seicolegol glasoed, cof a bywyd teuluol. Mae profiadau ffurfiannol ieuenctid, hunaniaeth a pherthyn yn cael eu cyflwyno gydag egni emosiynol dwys, gan hofran rhywle rhwng y cyfarwydd a’r cythryblus.
Mae Zena Blackwell yn beintiwr ffigurol o Brydain sy’n gweithio yng Nghaerdydd. Mae ganddi radd MFA o Central Saint Martins a gradd BA o Ysgol Celf Wimbledon, ac yn ddiweddar cwblhaodd y ‘Turps Correspondence Course’. Mae ei gwaith wedi cael ei arddangos yn Oriel Saatchi Gallery a Hastings Contemporary, ymhlith sefydliadau eraill, ac mae’n rhan o gasgliad parhaol Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn ogystal â chasgliadau preifat yn rhyngwladol.
Mae Blackwell wedi cyrraedd y rhestr fer ddwywaith ar gyfer Gwobr Beintio BEEP, ac enillodd Wobr Cyfeillion y Glynn Vivian yn 2024. Mae hi hefyd wedi ennill y wobr gyntaf yn arddangosfa ‘Summer Open’ MADE Caerdydd ac wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Arddangosfa Haf yr Academi Frenhinol.
Yn y fideo hwn, mae Zena yn trafod ei hymarfer artistig a’i harddangosfa ddiweddar, Safe as Milk, yn Oriel Elysium, ynghyd â’r artistiaid eraill a enillodd wobrau BEEP 2024, Charlotte Brisland a Susan Adams.
Tanysgrifiwch i Elysium Gallery TV i weld mwy o sgyrsiau gydag artistiaid ac ymweliadau â stiwdios gydag artistiaid o bob cwr o Gymru a thu hwnt.