Gwyl Peintio Eilflwydd Beep 2027 – Ceisiadau Ar Agor!

Peintiadau ar gyfer y Diwedd/ Paintings for the End
Dyddiadau Arddangos: 30 Gorffennaf – 18 Medi 2027
Lleoliad: Oriel Elysium Gallery, 12–24 Belle Vue Way, Abertawe, Cymru, SA1 5BY
Rhagolwg: Dydd Gwener 30 Gorffennaf 2027, 7yh
Dyddiad Cau: Dydd Sadwrn 10 Ebrill 2027, hanner nos
Beirniaid: I’w gyhoeddi
Am Beep 2027
Rydym yn gwahodd artistiaid o bob cwr o’r byd i gyflwyno gwaith i’w ystyried yng Ngwyl Peintio Eilflwydd Beep 2027, arddangosfa ryngwladol sy’n dathlu amrywiaeth, arbrofi a phosibiliadau peintio cyfoes.
Mae mynediad i Beep yn rhad ac am ddim. Gofynnir i artistiaid a dewisir ar gyfer yr arddangosfa dalu ffi arddangosfa o £20 fesul artist, sy’n cyfrannu’n uniongyrchol at gostau gosod, cynhyrchu catalog a gwobrau.
Bydd yr arddangosfa’n cynnwys prif wobr o £1,500, gyda’r artist buddugol hefyd yn derbyn y cyfle i gyflwyno arddangosfa yn y dyfodol yn Oriel Elysium.
Mae Beep ac Oriel Elysium yn sefydliadau dielw, dan arweiniad artistiaid.
Gall artistiaid gyflwyno hyd at ddau waith, yn seiliedig ar thema eleni, Paintings for the End.
Y Thema: Peintiadau ar gyfer y Diwedd
Wedi’i osod mewn byd y tu hwnt i ddiwedd yr hen un, mae Peintiadau ar gyfer y Diwedd yn dychmygu dyfodol wedi’i lunio gan newid technolegol, trychineb a gwanhad yr atgof o’r hyn a ddaeth o’r blaen. Mae straeon y gorffennol wedi dod yn dameidiog, wedi’u gwyrdroi a’u camgofio, wrth i weddillion yr hen fyd oroesi mewn ffurfiau annisgwyl. Yn y dirwedd ansicr newydd hon, mae arddangosfeydd celf wedi dod yn gyfarfyddiadau prin – mannau ar gyfer ailddarganfod, myfyrio a chysylltu.
Rydym yn gwahodd artistiaid i archwilio peintio yn y byd ôl-apocalyptaidd dychmygol hwn, gan gofleidio arbrofi ar draws arwynebau, deunyddiau a gwrthrychau hapgael. O gynfasau traddodiadol i gynheiliaid anghonfensiynol a gweddillion a achubwyd, mae’r arddangosfa’n ystyried beth allai peintio ddod pan nad yw’r byd yr oedd yn perthyn iddo unwaith yn bodoli rhagor.
Bydd trac sain apocalyptaidd a grëwyd yn arbennig a chatalog arddangosfa gysylltiedig yn ymestyn y byd dychmygol hwn y tu hwnt i waliau’r oriel, gan ychwanegu haenau pellach at awyrgylch, naratifau a phrofiad yr arddangosfa. Cyhoeddir digwyddiadau a gweithgareddau pellach sy’n rhedeg drwy gydol yr arddangosfa yn ddiweddarach.
Gwneud Cais: Ewch i www.beepaintingbiennial.cymru i weld sut i ymgeisio.