Arddangosfeydd oriel a chynorthwyydd gweinyddol

Mae’r swydd hon yn gofyn i’r ymgeisydd fod yn siaradwr Cymraeg

Oriel Elysium – Cynorthwy-ydd Gweinyddol (Siaradwr Cymraeg)

Lleoliad: Abertawe (posibilrwydd o rywfaint o deithio)

Telerau: Rhan amser 18 awr yr wythnos

Cyflog/cyfradd: £13,104 (£6,936 pro rata)

Amdanom ni:

Mae oriel Elysium yn ddarparwr celfyddydau cyfoes a stiwdios di-elw sy’n meithrin addysg ac ymgysylltiad rhwng artistiaid a chymunedau i greu newid cymdeithasol cadarnhaol.

Wedi’i sefydlu yn 2007, mae Elysium yn sefydliad a arweinir gan artistiaid, sy’n cefnogi ac yn hyrwyddo’r celfyddydau yn Abertawe a thu hwnt gyda phwyslais ar gydweithio a chymuned, hyrwyddo addysg, cyfranogiad, arbrofi, rhyddid a gwerthfawrogiad ym mhob ymarfer creadigol.

Am y rôl:

Bydd y rôl hon yn chwarae rhan hanfodol mewn cefnogi rhediad rhwydd trwy ddelio âg amrywiol dasgau gweinyddol a darparu cymorth i staff yr oriel, artistiaid, cleientiaid ac ymwelwyr. Cefnogi a chyfrannu at ei lwyddiant drwy ddarparu cymorth gweinyddol, hwyluso cyfathrebu, a sicrhau profiad cadarnhaol i’r holl randdeiliaid.

Cyfrifoldebau:

Rheolaeth Swyddfa: Rheoli gweithrediadau o ddydd i ddydd, gan gynnwys ateb ffonau, ymateb i e-byst, trefnu apwyntiadau, a chynnal cyflenwadau swyddfa.

Cefnogaeth Weinyddol: Darparu cefnogaeth weinyddol i staff yr oriel, gan gynnwys trefnu cyfarfodydd, paratoi dogfennau, drafftio gohebiaeth, a chynnal systemau ffeilio.

Rheoli Cronfeydd Data: Rheoli cronfa ddata’r oriel o artistiaid, cleientiaid, tenantiaid stiwdio, a chysylltiadau, gan sicrhau cywirdeb a chyflawnder gwybodaeth, a diweddaru cofnodion yn ôl yr angen.

Cefnogi Arddangosfeydd: Cynorthwyo gyda chydlynu arddangosfeydd, gan gynnwys trin llwytho a derbyn gwaith celf, paratoi deunyddiau arddangosfeydd, a chynorthwyo gyda gosod a dadosod yn ôl yr angen.

Gwerthu a Phryniant: Cynorthwyo gyda thrafodion gwerthu, prosesu taliadau, cynhyrchu anfonebau, a chynnal cofnodion gwerthu a rhent stiwdios.

Cydlynu Digwyddiadau: Cynorthwyo gyda chynllunio a chydlynu digwyddiadau oriel, megis agoriadau arddangosfeydd, sgyrsiau artistiaid, a derbyniadau arbennig, gan gynnwys anfon gwahoddiadau, trefnu arlwyo, a chydlynu logisteg.

Rheoli Rhestr Eiddo: Cynorthwyo gyda thasgau rheoli rhestr eiddo, gan gynnwys catalogio gwaith celf, diweddaru cofnodion rhestr eiddo, a chynnal gwiriadau rhestr eiddo yn rheolaidd ac archebu stoc ar gyfer gweithdai.

Ymchwil a Dogfennaeth: Cynnal ymchwil ar artistiaid, gweithiau celf, a thueddiadau’r farchnad gelf, a chynorthwyo gyda dogfennu arddangosfeydd a chasgliadau orielau.
·

Gwasanaethau i Gwsmeriaid: Darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol i gleientiaid, mynd i’r afael ag ymholiadau a datrys materion mewn modd proffesiynol ac amserol.

Gweinyddu Ariannol: Cynorthwyo gyda thasgau gweinyddu ariannol, megis prosesu costau, cysoni cyfrifon.

Cydymffurfiaeth: Sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau a pholisïau perthnasol, megis canllawiau iechyd a diogelwch, gofynion yswiriant, a rheoliadau diogelu data.
Manyleb Person:

Hanfodol

Sgiliau trefnu ardderchog
Cymraeg llafar ac ysgrifenedig.
Profiad o ysgrifennu adroddiadau
Profiad o reoli perthnasoedd â rhanddeiliaid mewnol ac allanol
Gwybodaeth am faterion cydymffurfio a rheoleiddio perthnasol
Dymunol

Yn angerddol ac yn wybodus am y celfyddydau
Profiad o gydweithio ag artistiaid
I wneud cais anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol i info@elysiumgallery.com

Dyddiad cau: 24/05/24