At Cross Purposes

Rhagolwg: Dydd Sadwrn 10fed Tachwedd 7pm

Mae’r arddangosfa’n parhau tan 23 Rhagfyr.

Arddangosfa ar agor Dydd Mercher – Sad 11am-9pm

Mae At Cross Purposes yn brosiect curadurol gan Grŵp 56 Cymru sydd wedi arwain at gynhyrchu gwaith a phartneriaethau newydd, arddangosfa sy’n mynd o un lleoliad i’r llall a llyfr cysylltiedig. Mae teitl y prosiect yn adlewyrchu’r gymysgedd o drafodaeth, ymarfer creadigol a churadu. Mae’r prosiect wedi ymestyn ymarfer creadigol aelodau drwy bartneriaethau gydag artistiaid y tu hwnt i ffiniau daearyddol, cenedliadol a thematig er mwyn creu hunaniaeth newydd i Grŵp 56 Cymru, nid yn unig fel y grŵp avant-garde modern a oedd ar ddechrau ei daith ym 1956, ond fel cyfranwyr ymwybodol, creadigol, a chyfunol tuag at gelf gyfoes yng Nghymru. Mae’r prosiect yn adeiladu ar ac yn cario ymlaen  yr hyn a ddechreuwyd eisoes gan y grŵp.

Roedd y prosiect yn gofyn bod un ar bymtheg aelod o Grŵp 56 Cymru yn cael eu partneru ag artist gwadd o ledled y DU ac Iwerddon fel y’i dewiswyd gan gyfarwyddwr y prosiect, Dr Frances Woodley. Yna, gwahoddwyd bob pâr o artistiaid i weithio â hi trwy gymryd rhan mewn trafodaeth/ gohebiaeth tair ffordd drwy e-bost. Mae tri deg dau o artistiaid ac un curadur wedi bod ynghlwm â’r prosiect hwn dros gyfnod o amser sydd wedi ymestyn dros gyfnodau clo Covid-19, pan roedd artistiaid yn ceisio’u gorau i ymdopi â stiwdios drosdro. Mae curadu’r arddangosfa yn adlewyrchu’r trafodaethau hyn trwy baru gweithiau artistiaid.

Mae’r drafodaeth yn dystiolaeth o ddau feddwl yn cwrdd â sawl bwriad yn uno. Mae newid yn digwydd yn ystod y broses, ac yn ei dro, mae hyn yn dod yn destun trafodaeth bellach. Bu’n rhaid i’r gohebwyr fod yn fyfyriol, yn atblygol a hael – gyda phawb yn ceisio’r gorau yn y llall.

Er bod strwythur cadarn ar waith, nid oedd canlyniad y prosiect yn ddisgwyliedig. Rhoddodd Tiffany Oben, Grŵp 56 Cymru, grynodeb a oedd yn nodi:

‘Ceir ymdeimlad o roi rywbeth ar waith, rhoi’r rhyddid iddo ddatblygu, gweld be ddaw ohono ac i ble mae’n mynd. Bydd y prosiect hwn yn arwain at gyfnewid amhenodol o rywfath, gweithred o haelioni a gonestrwydd mewn ymdrech i geisio cael dealltwriaeth drwy ‘drafodaeth’ a sefydlu’r Llall fel cyd-gynhyrchydd [o bosib]. Trwy wneud hyn, mae’r artist yn dod yn archwiliwr [cydweithiwr, cyfrannwr, rhannwr, ffrind] ac mae’r broses arfaethedig yn troi’n ymarfer, waeth beth yw’r arbenigedd a hoffter ar gyfer y cyfryngau.’

‘Rydym yn byw mewn cyfnod lle mae ffiniau, hunaniaeth a theyrngarwch yn cael eu cwestiynu. Mae sawl artist yn ymdrin â’r sefyllfa hon drwy fanteisio ar ymarfer greadigol a ‘deialegol’ gydag eraill. Mae deialog yn datgelu artistiaid a’u hymarfer i’r anghyfarwydd a’r hyn sy’n cael ei esgeuluso, ac yn meithrin safbwyntiau newydd.’ Dr Frances Woodley, Cyfarwyddwr Prosiect.

Artists

Robert Harding & Tim Dodds, Martyn Jones & Martin Finnin, Sue Hiley Harris & Michael Geddis, Luis Tapia & Louise Manifold, Carol Hiles & Jane Rainey, Peter Spriggs & Christine Roychowdhury, Dilys Jackson & Keith Brown, Alison Lochhead & Judith Tucker, Pete Williams & Mark Doyle, Ken Elias & Morwenna Morrison, Harvey Hood & Molly Thompson, Rhodri Rees & Ellen Mitchinson, Sue Hunt & Paula Mac Arthur, Kay Keogh & Michelle McKeown, Tiff Oben & Garry Barker, Corinthe Rizvi & Louise Barrington