CELF YN Y BAR
Kaylee Francis: Rough Edges
Rhagflas: Dydd Gwener 4ydd o Hydref 7yh
Parhau tan 26ain o Hydref
Oriau agor y galeri – Dydd Sadwrn 11yb – 7yp
Fel ffotograffydd Dogfennol, mae gan yr artist o Abertawe Kaylee Francis ddiddordeb mewn archwilio materion sy’n ymwneud â chynrychioli a chamliwio cymunedau economaidd-gymdeithasol is. Mae ei gwaith yn ystyried y posibiliadau o ddefnyddio ffotograffiaeth a gweithredaeth ar gyfer gweithrediad a newid cymdeithasol.
‘Mae’r gwaith o’r enw Rough Edges, yn ddogfennaeth barhaus o stad cyngor yn Abertawe, cefais fy ngeni a’m magu yn yr ardal ac mae gen i gysylltiadau a pherthnasoedd cryf â’r gymuned o hyd. Rwyf wedi cael fy nenu i dynnu lluniau o’r lleoedd a’r bobl rwy’n eu hadnabod yma, mewn ffordd sy’n ddilys i’m profiad, ac sydd, yn gobeithio’n cyfrannu wrth-naratif tuag at gynrychioliadau negyddol yn y cyfryngau sy’n nodweddiadol o gymunedau o’r fath.
Gan bod y cyfryngau eang yn un o’r ffurf fwyaf dylanwadol yn y byd ac hefo consympsiwn gormodol credai mae gennym y modd i ffurfio golygiad y byd a hunianiaeth pobl. Fy mwriad yw i archwilio sut sut mae diffyg cynrychiolaeth gadarnhaol yn effeithio ar feddylfryd ifanc argraffadwy unigolion sy’n dod o’r meysydd hyn’.