Galwad agored i ymuno â’n bwrdd cyfarwyddwyr:
Mae oriel elysium yn recriwtio ymddiriedolwyr newydd.
Mae oriel elysium yn chwilio am aelodau newydd i ymuno â’u Bwrdd Cyfarwyddwyr sefydledig.
Rydym yn awyddus i recriwtio Cyfarwyddwyr o gymunedau a grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol i helpu ymestyn cyrhaeddiad ein sefydliad.
Oes gennych chi angerdd dros y celfyddydau, y gymuned a helpu creadigrwydd i ffynnu yn Abertawe?
Hoffech chi wneud gwahaniaeth a helpu i dyfu ein sefydliad bywiog?
Mae elysium yn mynd trwy rai newidiadau cyffrous, felly ymunwch â’n grŵp o artistiaid ac addysgwyr i helpu elysium cyrraedd cam nesaf ein datblygiad, gan ymateb i anghenion y gymuned.
Rydym yn awyddus i glywed gan bobl o bob cefndir ac sydd ag ystod eang o sgiliau. Wrth i elysium dyfu rydym yn chwilio am bobl sydd ag amser, ymrwymiad a brwdfrydedd i gymryd rhan weithredol yn y sefydliad. Ar yr adeg hon, mae gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed gennych os oes gennych brofiad yn unrhyw un o’r meysydd canlynol:
Codi Arian + Nawdd
Meithrin cysylltiadau ac ymgysylltu â’r gymuned, yn enwedig gydag artistiaid a grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.
Adnoddau Dynol a chefnogaeth weinyddol (cofnodion mewn cyfarfodydd, ceisiadau am gyllid, gweinyddiaeth staff)
Amdan:
Rydym yn sefydliad a arweinir gan artistiaid sy’n annog balchder a chyfranogiad yn y celfyddydau gweledol a pherfformio lleol mewn amgylchedd sy’n hyrwyddo addysg, cyfranogiad, arbrofi, rhyddid, a gwerthfawrogiad ym mhob ymarfer creadigol.
Yn hanesyddol nid ydym erioed wedi’m gwreiddio mewn un adeilad, yn byw mewn 9 adeilad, ac wedi cychwyn llawer o brosiectau oddi ar y safle ar hyd y blynyddoedd.
Y gallu hwn i newid, addasu a thrawsnewid sy’n parhau i yrru elysium i ffynnu a pheidio byth â sefyll yn ei unfan mewn tirwedd ddiwylliannol sy’n newid yn barhaus.
Anfonwch e-bost at info@elysiumgallery.com gyda CV a llythyr eglurhaol os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’r tîm.