Elsewhere, Here
Arddangosfa o artistiaid stiwdio oriel elysium o Abertawe, Cymru
03/09/25 – 27/09/25
Lleoliad: Lord Mayors Pavillion, Cork
Rahgolwg: Dydd Mercher 3ydd Medi, 5.30YP
Oriel ar agor Dydd Mawrth – Dydd Sadwrn 11yb – 5yh, Sul 12yb – 5yh
Artistiaid
Leila Bebb | Kate Bell | Luke Cotter | Ewan Coombs | Tim Davies | Angela Dickens | Lucy Donald | Gemma Ellen | Daniel Gower | Stephen Hammett | Rory Hancock | Sophie Hancock | Bonita James | Demian Johnston | Hannah Jones | Lucia Jones | Ann Jordan | Tim Kelly | Sheree Murphy | Heidi Lucca-Redcliffe | Holly Slingsby | Tracey McMaster | Paul Munn | Graham Parker | Jonathan Powell | Euros Rowlands | Claire Staveley | Daniel Staveley | Hollie Wilkins | Dylan Williams | Melanie Wotton
Bydd Corc yn croesawu ton fywiog o gelf gyfoes o Gymru fel Elsewhere, Here, arddangosfa o artistiaid o gymuned stiwdios artistiaid oriel elysium Abertawe. Mae’r arddangosfa drawsffiniol hon yn dwyn ynghyd baentiadau, cerfluniau a gosodiadau, sy’n archwilio ystyron newidiol lle, perthyn a hunaniaeth.
Mae’r arddangosfa’n nodi’r tro cyntaf i grŵp o artistiaid elysium arddangos yng Nghorc, gan greu llwyfan ar gyfer deialog rhwng cymunedau dan arweiniad artistiaid yng Nghymru ac Iwerddon. Mae’r arddangosfa hefyd yn rhan o raglen gyfnewid creadigol barhaus rhwng Sample Studios ac oriel elysium, yn dilyn arddangosfa o weithiau celf y ddau stiwdio yn Abertawe yn 2024.
Mae Elsewhere, Here yn ymwneud â’r ffyrdd rydym yn cario ein teimlad o le gyda ni, Mae’n gyfnewid safbwyntiau, yn fan cyfarfod rhwng y cyfarwydd a’r anhysbys.
