Rydym yn falch i gyhoeddi’r artistiaid a dewiswyd ar gyfer ein prosiect cydweithredol Cymru/ Canada, Ail-fframio’r Gorffennol>>Dyfodol sy’n Datblygu
Megan Arnold, Tricia Enns, Penny Hallas, Jessica Lerner, Andrew Maize &
Euros Rowlands.
Comisiynwyd y 6 artist o Ganada a Chymru gan elysium, mewn partneriaeth âg IICSI i gyd-weithio, yn datblygu strategaethau traws-Iwerydd i greu gwaith newydd beirniadol ac arbrofol ar-lein.
Trwy gyfres o drafodaethau artist misol ar-lein, rydym am greu llwyfan arloesol ar gyfer cydweithrediadau creadigol bydd yn esblygu i mewn i ddatblygu syniadau a fydd yn rhan o gyfraniad elysium tuag at Wyliau Byrfyfyr IF IICSI yn 2022.
Artist amlddisgyblaethol Filipinx-Canadaidd yw Megan Arnold, sydd ar hyn o bryd yn dilyn MFA gyda ffocws ar berfformans ym Mhrifysgol Guelph. Mae ei gwaith yn archwilio tensiwn rhwng hiwmor/ dwyster, celf/ adloniant, a ffantasi/ realiti. Karaoke yw hoff weithgaredd Megan.
Tricia Enns yw ymchwilydd, dylunydd, hwylusydd, crëwr, artist a pherfformwr.
“Ar hyn o bryd rydw i’n creu gwaith cyfranogol sy’n defnyddio creu papur, gweddillion, creu lle, darlunio a pherfformadwriaeth i archwilio ffyrdd newydd o ddeall ein perthynasau gyda gofodau trefol. Ar hyn o bryd rwy’n chwilfrydig am y pwynt(iau) o groestoriad rhwng creu lle, dweud storïau, ac ein detritws anghofedig.”
Penny Hallas – Tra bod arlunio wrth raidd fy ymarfer, rydw i’n defnyddio fideo, paentio, ffotograffiaeth ac elfennau cerflunol, yn aml ar ffurf gwrthrychau a ddarganfuwyd. Mae dulliau cydweithredol yn rhan annatod o’m hymarfer, yn enwedig gyda pherfformwyr: Rydw i’n croesawi’r aflonyddu, her a chyfoethogiad amryw o safbwyntiau.
Jessica Lerner – “Rwy’n defnyddio symudiad fel deunydd cerfluniol sy’n cydnabod fy hunaniaeth ac ymdeimlad o ddychymyg ymgorfforedig fel menyw.
Trwy fapio fy nhirwedd fewnol ar yr un pryd mewn cysylltiad â’r gofod allanol, yn fy ymarfer symudiad, rwy’n creu senarios emosiynol ac yn chwarae allan cysylltiadau swrrealaidd. Trwy ymateb i’r hyn sy’n bresennol yn y foment, rwy’n tynnu tirweddau dychmygus sydd wedi’u seilio mewn manylion y corff.
Mae Andrew Maize yn artist y mae ei ymarfer chwareus a throellog yn tynnu ar iaith, perthnasoedd a thechnoleg fel catalyddion ar gyfer drafodaethau. Ar hyn o bryd mae’n darllen Nan Sheppherd, yn hyfforddi i fod yn weithiwr post ac yn rhwbio ei lygad chwith gyda llaw sych yr un ochr.
Euros Rowlands – Mae fy ymarfer yn edrych ar yr haenau a’r deuoliaethau sy’n bodoli yn ein perthynas ag eraill a gyda’n hunain. Mae’r gweithiau hyn yn cael eu creu trwy gyfuniad o baent, ffotograffau, cylchgronau, a hysbysebion, ac yn ceisio uno elfennau annhebyg i mewn i rywbeth gyflawn sydd â chyseiniant emosiynol a deallusol. Mae gennyf ddiddordeb yn y broses o gof, o’r ffordd o gofio, anghofio, a dychmygu, yn cyfuno i greu adlais weledol o’r hyn a falle unwaith oedd.
Cefnogir y prosiect hwn gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru.