Ymunwch â’n artistiaid sy’n arddangos gwaith a chrewyr gwadd ar gyfer cyfres o weithdai ymarferol, wedi’u hysbrydoli gan ein harddangosfa bresennol sy’n dathlu cerfluniau haniaethol a darluniau o anifeiliaid. P’un a ydych chi’n mwynhau creu, darlunio, gwneud printiau neu arbrofi gyda lliw, mae rhywbeth i bawb ei fwynhau. Dewch draw, rhowch gynnig ar rywbeth newydd a byddwch yn greadigol!
14 Tachwedd | Gweithdy Cerflunio ar Raddfa Fawr gyda’r artist Luke Cotter
Ewch yn FAWR gyda lliw, patrwm a chreadigrwydd! Gan ddefnyddio brwsys a sbwngiau mawr, helpwch i drawsnewid ein cerfluniau sydd o faint bywyd go iawn gyda dyluniadau beiddgar, llachar a hwyliog. Bydd eich creadigaethau yn rhan o arddangosfa wyliau ysblennydd, gan lenwi ffenestri ein Gofod Addysg ar gyfer tymor y Nadolig.
Awgrym bach: gwisgwch eich dillad mwyaf hen a blêr ar gyfer hwn – gall pethau fynd yn eithaf lliwgar!
28 Tachwedd | Gweithdy Darlunio Anifeiliaid gyda’r artist Gemma Ellen
Edrychwch yn agosach ar deyrnas yr anifeiliaid a darganfyddwch sut i ddal cymeriad anifeiliaid trwy ddarlunio. Dysgwch adnabod y siapiau a’r ffurfiau sydd i’w gweld yn wynebau a chyrff anifeiliaid, yna arbrofwch gyda braslunio a phatrymau cywrain i awgrymu gwead, manylion a phersonoliaeth.
12 Rhagfyr | Gweithdy Gwneud Printiau Nadoligaidd gyda’r artist Sian Barlow o Swansea Print Workshop
Mwynhewch ysbryd y gwyliau a chreu eich cardiau cyfarch eich hunain gyda thema’r Nadolig neu’r gaeaf! Dysgwch sut i ddylunio a gwneud bloc argraffu rhyddhad (relief printing block), yna arbrofwch trwy ei argraffu mewn lliwiau gwahanol i greu eich dyluniadau unigryw eich hun. Bydd hefyd ddetholiad o ddyluniadau parod y gallwch roi cynnig arnynt; gallwch eu cyfuno a mynd â chasgliad o gardiau wedi’u hargraffu’n hyfryd adref gyda chi.
19 Rhagfyr | Cerfluniau Anifeiliaid o Ddeunyddiau wedi’u Hailgylchu gyda’r artist Hollie Wilkins
Trowch wastraff bob dydd yn rhywbeth rhyfeddol! Gan ddefnyddio pecynnau plastig a charton wedi’u hailgylchu, byddwch yn creu ac yn paentio eich cerflun anifail haniaethol eich hun. Arbrofwch gyda siapiau, gweadau a deunyddiau gwahanol i ddod â’ch creadur yn fyw.
