Arlunio Bywyd yn Oriel Elysium
Bob nos Fercher ac eithrio diwedd y mis.
£10 talu ar y diwrnod + cewch ddiod AM DDIM o’r caffi!
Rydym yn eich croesawu i ymuno â’n sesiynau arlunio bywyd cyfeillgar ac anffurfiol mewn amgylchedd hamddenol ac atmosfferig. Rydym yn darparu deunyddiau arlunio sylfaenol gan gynnwys pensiliau, siarcol, pennau ffelt a phapur. Dewch ag unrhyw beth mwy penodol gyda chi.
I ddechrau rydym yn newid ein modelau (heb ddillad) gan ddechrau gydag ystumiau byr, gyda’r hyd yn mynd yn hirach yn raddol dros gyfnod y noson. Rydym wastad yn cael egwyl te/cwrw yng nghanol y noson.
Mae sesiynau bob nos Fercher ac eithrio diwedd y mis. Rydym yn awgrymu troi fyny tua 6yh i gael lle da. Dechrau am 6.30yh.
