Rhagolwg / Preview: 14/07/23 7yh 7pm
Arddangosfa’n parhau tan dydd Sadwrn Medi 16eg
Exhibition continues until Saturday 16th September
Yn y bôn rwy’n creu gwaith sy’n gyfuniad o atgofion ac arsylwadau. Mae fy nylanwadau yn gwreiddio o fy magwraeth yng nghefn gwlad Cymru yn ogystal â theithiau a phrofiadau o ddiwylliannau estron. Y mae’r tirlun, atgofion a theithiau yn elfennau pwysig yn fy ngwaith, ond mae’r delweddau yma fel arfer yn amhosibl ei adnabod gan eu bod wedi symleiddio i siapiau a ffurfiau craidd.
Yn ddiweddar rwyf wedi bod yn ffocysu ar faterion yn ymwneud a fy hunaniaeth a fy mherthynas efo’r ardal ble gefais fy magwraeth sef Deheudir Eryri. Mae’n le rwy’n teimlo cysylltiad cryf efo. Mae fy nheulu wedi ffermio’r tir yma am ganrifoedd. Fe gefais fy magu ar straeon am yr ardal ac o ganlyniad cafodd fy nychymig ei danio gan liwio’r tirlun efo haenau ychwanegol i’r arwynebol gan roi ymwybyddiaeth o’i hanes a sut mae wastad yn newid.