Celf yn y Bar: Chwaraeon Abertawe


Event Details

  • Date:
  • Categories:

Matt Eynon | Carys Griffiths | Alex Wilson | Becky Young | Zobia Ahmed | Serena Killen | Jack Moyse

01/04/23 – 06/05/23

Mae chwaraeon wedi bod yn rhan fawr o lunio hunaniaeth Abertawe ar lwyfannau cenedlaethol a rhyngwladol. O’r Jacks a’r ‘Spreys i ddigwyddiadau hanesyddol fel Gary Sobers yn torri tir newydd gyda’i chwe chwech a’r protestiadau yn San Helen dros reolau apartheid De Affrica ym 1969, mae Abertawe wastad wedi bod yn ddinas lle mae rhagoriaeth chwaraeon yn cael ei hannog a’i dathlu. Nod yr arddangosfa hon yw dathlu treftadaeth chwaraeon Abertawe, gan ystyried y golygfeydd amrywiol a gynhelir mewn parciau, meysydd chwarae, neuaddau chwaraeon a phob math o leoliadau eraill ar draws y ddinas. Mae’r arddangosfa hon yn arddangos gwaith 7 ffotograffydd lleol sy’n dogfennu’r gweithgareddau chwaraeon niferus sy’n digwydd yn y ddinas a thu hwnt.