Celf yn y Bar – Llawenydd a Chymuned Cwiar!
Molly Allen | Olivia Coles | Chris Corish | Adam Charlton | Morgan Dowdall | Caitlin Flood-Molyneux | Gemma Green-Hope | Josh Jones | Amelia Roberts | Luke Roberts
31/05/24 – 20/07/24
Mae’r arddangosfa hon yn dathlu’r bobl greadigol cwiar Cymreig ac artistiaid cydweithfa On Your Face! Mae artistiaid o’n cyfeiriadur wedi cyflwyno darnau o waith sy’n tanio Llawenydd Cwiar ac ymdeimlad o gymuned iddynt.
Mae On Your Face yn fenter gymdeithasol sy’n dod â phobl greadigol cwiar Cymru i’r blaen. Trwy greu cyfeiriadur o bobl greadigol LHDTC+ Cymru, cynnwys a gofodau cwiar, rydym yn arddangos gwaith cerddorion, dylunwyr, awduron, artistiaid a ffotograffwyr LHDTC+ o Gymru.
Yn bwysicaf oll, rydym am greu cyfleoedd a swyddi gan ac ar gyfer y bobl greadigol cwiar a dod â’r gymuned cwiar ynghyd.
Os ydych chi’n cwiar ac yn artist, darlunydd, ffotograffydd, awdur, canwr, cerddor, gwneuthurwr ffilmiau neu’n greadigol mewn unrhyw ffordd ac eisiau i’ch gwaith gael ei arddangos, cysylltwch â ni a chofrestrwch!