Celf yn y Bar
Tracey McMaster: Homebody
07/02/25 – 29/03/25
Mae Tracey McMaster yn cyflwyno cyfres newydd o beintiadau o’r enw “Homebody” ar gyfer yr arddangosfa celf yn y bar diweddaraf yn oriel elysium. Mae ‘Homebody’ yn myfyrio ar bersbectif symudol yr artist trwy themâu bod, perthyn, colled a’r corff.
Disgrifia Tracey ei phroses beintio fel un awtomatig, gan chwarae gyda phaent trwy haenu, stwnsio, adeiladu ac arbrofi gydag arwynebau trwy eu trochi mewn dŵr môr neu eu gadael allan yn y glaw. Mae gweithiau Tracey yn aml yn ffigurol, eglura, “Rwy’n meddwl am fy mherthynas ag eraill, cryfder y teimladau hynny a sut y gallant gael eu hangori gan le ac amser ac eto’n hofran hefyd. Rwy’n archwilio’r eiliadau hyn o ailgysylltu yn fy mheintiadau, i’r hunan, i’r isymwybod, i eraill.”
Mae mwy o weithiau dethol o “Homebody” yn cael eu dangos fel rhan o Arddangosfa ‘New Voices’ (Lleisiau Newydd) Oriel Cardiff MADE rhwng 8 Chwefror 2025 a 9 Mawrth 2025; am ragor o wybodaeth ewch i www.cardiffmade.com