Chwarae Blêr a Synhwyraidd


Event Details

This event is running from 4 September 2026 until 18 December 2026. It is next occurring on September 4, 2026 10:30 am

  • Categories:
  • Upcoming Dates:

Chwarae Blêr a Synhwyraidd

Bob Dydd Mercher

10:30yb – 11:30yb

£8/£10 i frodyr a chwiorydd – talu ar y diwrnod

Oedran 6 mis i 3 oed.

(Gallwn ddarparu ar gyfer plant os nad ydynt yn ffitio’n hollol i’r grŵp oedran hwn e.e. mae gennych blentyn 2 oed a phlentyn 3 mis oed – gallwch dal ddod!).

Dewch i archwilio a dysgu gyda phrofiadau synhwyraidd ymarferol! Gwisgwch hen ddillad a dewch â newid dillad ar gyfer wedyn!

Mae’n fwy na dim ond hwyl a gwneud llanast:

Trwy wahanol weadau, lliwiau a deunyddiau, gall plant fynegi eu hunain yn rhydd, rheoleiddio eu hemosiynau, ac ennill hyder.

Mae’n annog chwilfrydedd, creadigrwydd, ac archwilio wrth helpu i feithrin sgiliau pwysig fel cydlyniad, cyfathrebu, a datrys problemau – a hynny i gyd wrth ddysgu trwy chwarae ar eu cyflymder eu hunain.

** Rhowch wybod i ni am unrhyw alergeddau ymlaen llaw – neu o leiaf wrth i chi gyrraedd. Bydd gwahanol fwydydd yn cael eu defnyddio ar gyfer chwarae yn ystod y sesiynau – os oes alergedd difrifol – gwiriwch a chynlluniwch ymlaen llaw trwy gysylltu â siwan_haf@live.co.uk

Byddwn bob amser yn ceisio cynnwys rhai gweithgareddau a fyddai’n iawn i blentyn ag alergeddau gymryd rhan ynddynt.

Mae caffi ar y safle (ar agor o 11yb) yn gwerthu diodydd poeth ac oer yn ogystal â rhai cacennau blasus!