Clwb paentio!


Event Details

This event finished on 06 October 2024


DOSBARTH TRYDYDDLLE

Clwb paentio!

Ymunwch â’n artistiaid Lucy Donald, Jenny Chisolm a Karen Hopkins am benwythnos o baentio!

Crëwch paentiad wedi’i fframio eich hun ac ei arddangos yn ein lle oriel i bobl yn ystod y pythefnos  “We Are All Artists”.

Addas i artistiaid o bob oed ac abilrwydd. Suitable for artists of all ages and abilities. Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn.

Gweithdai drop-in am ddim yw’r rhain, nid oes angen archebu lle.

12-4yh Dydd Sadwrn 5ed a Dydd Sul 6ed Hydref

(gellir casglu paentiadau a mynd â nhw adref)

Bydd yr holl ddeunyddiau sy’n cael eu defnyddio wedi’u hailgylchu

Amdano’r artistiaid:

Artist sy’n byw ac yn gweithio yn Ne Cymru yw Lucy Donald. Mae hi wedi arddangos ei gwaith yn lleol ac yn rhyngwladol gan gynnwys America, Japan, Gweriniaeth Tsiec, yr Eidal a Chanada. Mae ei phaentiadau yn aml yn atgofio naratifau breuddwydiol ac weithiau maent yn datblygu i fod yn animeiddiadau. Mae hi’n gweithio’n bennaf gyda deunyddiau yn dda i’r amgylchedd gan gynnwys dyfrlliw a thempera wy.

Mae Karen Hopkins yn artist sy’n byw ac yn gweithio yn Ne Cymru. Mae hi wedi arddangos ei gwaith yn lleol a hefyd yn rhyngwladol, tra’n byw yn Ne America ers 5 mlynedd. Mae ei phaentiadau wedi’u hysbrydoli gan arsylwadau dyddiol wrth gerdded hefo’i ci trwy natur. Wedi’i swyno gan batrymau arwyneb, mae’n archwilio ac yn arbrofi gyda chyfryngau cymysg a thechnegau gwahanol i drosi’r arsylwadau hyn, gan gynhyrchu canlyniadau haenog a gweadog yn ei phaentiadau tirwedd haniaethol.

Mae Jenny Chisholm yn artist amlddisgyblaethol, yn byw yn Ne Cymru ac yn gweithio yn ei chymuned leol. Dros y 34 mlynedd diwethaf, mae ei hymarfer wedi esblygu i gefnogi pobl o bob oed a chefndir i gael mynediad i weithgareddau artistig a chymryd rhan ynddynt, fel lluniadu, cerflunio a brithwaith, dan do ac yn yr awyr agored. Mae themâu cynaliadwyedd a’r byd naturiol yn ddylanwadau allweddol ar y gweithiau celf a grëwyd. Mae ei gweithiau haniaethol mynegiannol yn seiliedig ar deimladau emosiynol a ddarlunnir trwy dirwedd a phortreadau ac maent wedi cael eu harddangos ledled y DU.