I nodi Diwrnod Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Dileu Trais yn erbyn Menywod, mae’r artist dinahvagina yn cyflwyno perfformiad pwerus dros ddau ddiwrnod yn y ffenest sy’n edrych dros Stryd Fawr Abertawe ar ddydd Llun 25 a dydd Mawrth 26 Tachwedd o 9yb. Daw hyn i ben gyda sgwrs artist ar ddydd Mawrth 26 am 7yh.
Mae’r heddlu’n derbyn galwad yn reportio drais domestig bob 30 eiliad. Ar gyfartaledd, bydd menywod sy’n reportio trais domestig i’r heddlu eisoes wedi dioddef 35 o ymosodiadau.
Mae dinahvagina yn artist sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru. Mae hi’n gwneud ystod amrywiol iawn o waith gan ddefnyddio print, tecstiliau, serameg, paent ayyb. wedi’u hysbrydoli gan fywydau a marwolaethau merched. Yn aml yn bryfoclyd, weithiau’n rhyngweithiol, mae ei darnau yn agor gofod ar gyfer ystyried a thrafod popeth o weithrediad rhywiol a phleser benywaidd i lofruddiaeth ddomestig. Nod dinah yw codi’r bar i fenywod a disgwyliadau o ran cyfle, gallu, pleser a dewis.
