Double Book Launch with Parthian Books


Event Details

  • Date: –
  • Categories:

Dydd Iau 29 Hydref 2026

7.30yh

Ymunwch â ni yn Elysium Gallery i ddathlu lansiad dwy gasgliad newydd gan y beirdd o Abertawe, Rhys Owain Williams a Jeni Williams, gyda darlleniadau a sesiwn holi ac ateb.

Here’s What Happens When You Enter a Black Hole

[https://www.parthianbooks.com/collections/pre-order/products/here-s-what-happens-when-you-enter-a-black-hole]

Yn Here’s What Happens When You Enter a Black Hole, mae Rhys Owain Williams yn archwilio gwrywdod modern, iechyd meddwl, a deinameg teulu sy’n newid. Cerddi yw’r rhain sy’n edrych ar y gwaddolion sy’n ein llunio – gan fyfyrio ar gariad, colled a llinach gyda gonestrwydd amrwd.

‘Dwi’n hoffi bardd sy’n ysgrifennu am greaduriaid afreolus: colomennod, pysgod aur anghofiedig ac arteithiedig, cŵn a mulfrain yn ymgasglu o amgylch meysydd parcio, biniau, afonydd, tai, mannau tipio anghyfreithlon a ffeiriau. Dwi’n hoffi bardd sy’n ysgrifennu tristwch gyda’r un symudiad cynffon gwyllt â chath sydd ar goll. Dwi’n hoffi bardd sy’n rhoi’r teimlad i mi o gerdded strydoedd cefn Abertawe, yn heneiddio bob eiliad, ac yn pendroni am hunaniaeth Gymreig. Dwi’n hoffi bardd sy’n ysgrifennu am wrywdod a bod yn dad fel petai’r cysyniadau hyn wedi’u creu o holl weddillion Abertawe. Dwi’n caru Bucky y plentyn-gath, y llys-dad dyletswyddgar, a’r holl gamau barddonol tuag at ddod yn dad yn y byd hwn sy’n debyg i dwll du anhrefnus. Dwi’n hoffi’r bardd hwn. Er bod angen Duolingo arnaf i ddweud hynny, nid oes angen unrhyw gymorth arnaf i fwynhau casgliad newydd gwych Williams.’ – Jessica Mookherjee

The Bee Travels in Dark Times

[https://www.parthianbooks.com/collections/pre-order/products/the-bee-travels-in-dark-times]

Dewiswch le melus i greu hafan…

Yn ei hail gasgliad o farddoniaeth, mae Jeni Williams yn chwilio am felyster mewn cyfnodau chwerw. Mewn byd ansicr a darnedig, mae dinasoedd yn crynu i mewn i adfeilion mwglyd; mae’r rhai coll a dryslyd yn galw ar draws coridorau ysbytai; ac mae esgidiau sy’n rhy fach yn dadfeilio yn y glaw. Ond, trwy’r craciau, gwelir cipolwg ar flodau a llawenydd bychan – clychau’r gog a llygadlys, jasmin a gwyddfid, surop pomgranad a chacen sinamon – ac ehangder enfawr o awyr. Wrth i olau ddod i’r amlwg o’r tywyllwch, mae cymeriadau’r cerddi hyn yn canu, gan baratoi i ddechrau o’r newydd. Yn dal yma, dal yn fyw.

‘llawn lliw, unigryw, wedi’i ddychmygu’n ddwys ond, yn anad dim, yn llawn tosturi dwfn…’

– Alice Entwistle am Being the Famous Ones (Parthian, 2009)

Wedi’i gynnal gan Susie Wild.