Gweithdai Teulu Dydd Sadwrn
Ymunwch â’n gweithdai celf AM DDIM i deuluoedd sy’n cael eu cynnal bob yn ail ddydd Sadwrn trwy gydol y flwyddyn.
Mae’r gweithgareddau celfyddydol hwyliog hyn yn canolbwyntio ar ystod o ddeunyddiau a thechnegau gwahanol sy’n addas ar gyfer pob gallu.
Nifer cyfyngedig o leoedd ar gael, rhaid archebu lle!
Rhaid i rai dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn. Darperir yr holl ddeunyddiau.
e-bostiwch lucy@elysiumgallery.com i archebu eich lle.
Dyddiadau/gweithgareddau:
Chwefror 8fed – Portreadau/gargoeliau clai sy’n sychu ag aer.
Gwnewch wyneb erchyll wedi’i ysbrydoli gan ein gargoeliau cerfiedig pren hynafol yn y bar.
Chwefror 22ain – Gweithdy gwneud gwisgoedd
Crëwch eich masgiau a’ch gwisgoedd eich hun o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu yn seiliedig ar eich hoff gymeriadau o lyfrau yn barod ar gyfer Diwrnod y Llyfr ym mis Mawrth.
Mawrth 8fed – Gweithdy creu Zine
Darganfyddwch bleser gwneud zine, gan ddefnyddio deunyddiau llythrennu a collage a geir mewn cylchgronau a hen luniau.
Mawrth 22ain – Gweithdy lliw paent a collage
Gan ddefnyddio papur wedi’i ailgylchu, ffotograffau hapgael a deunyddiau eraill i greu delweddau newydd.
Ebrill 5ed – Cymeriadau Jumping Jack
Creu ffigwr cymeriad llinyn tynnu hwyliog, gyda breichiau a choesau sy’n neidio!
