Ymunwch â ni i ddylunio ac addurno’ch masg neu’ch penwisg dathlu eich hun wrth i ni baratoi ar gyfer parti pen-blwydd elysium yn 16 oed ar ddydd Sadwrn 28ain o Hydref….a byddwn hefyd yn dathlu 50 mlynedd o un o’n hoff ffilmiau – The Wicker Man (1973)
Mae masgiau wedi bod yn rhan o seremonïau a dathliadau ers yr henfyd.
Wedi’n hysbrydoli gan ein harddangosfa ddiweddaraf gan y ffotograffydd Fatoumata Diabate, byddwn yn archwilio’r defnydd o fasgiau ar gyfer trawsnewid a mynegi ysbryd a chreadigedd.
Bydd cyfle i chi wneud a pheintio’r masg sut bynnag y dymunwch a naill ai mynd ag ef adref neu ei wisgo ar gyfer ein dathliadau pen-blwydd mawr ar ddiwedd y mis.
Cynhelir gweithdai ar ddydd Sadwrn 7fed, 14eg a 21ain Hydref 1-3yp.
MYNEDIAD AM DDIM addas i bob oed, rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn.