Gyda’r artist Gemma Williams a Lucy Donald
Masgiau Deinosor Cardbord
Paratowch ar gyfer Calan Gaeaf cynhanesyddol! Gan ddefnyddio cardbord wedi’i ailgylchu, dyluniwch a chreuwch eich masg deinosor dramatig eich hun.
P’un a ydych chi eisiau bod yn T. rex ofnadwy, yn triceratops pigog neu’n ddeinosor o’ch dyfeisiad eich hun, gadewch i’ch dychymyg redeg yn wyllt a chreu masg llawn cymeriad i’w wisgo ar Galan Gaeaf.
Mynediad am ddim
Gweithdy Teulu: Rhaid i bob oedolyn fod yng nghwmni plentyn. Ni allwn dderbyn oedolion unigol na phlant unigol
