Haf y Plantos!
Celf, Crefft a Chwarae am ddim!
Dewch draw gyda’ch plant unrhyw ddydd Gwener ym mis Awst, rhwng 11yb ac 1yp, i archwilio’r oriel a chwarae yn ein hystafell ddosbarth newydd.
Bydd teganau, gemau a deunyddiau celf ar gael, wedi’u darparu gan ein harbenigwr chwarae, Siwan (sydd â Diploma Ôl-raddedig mewn Chwarae Therapiwtig a Datblygiadol) – cyfle i bobl o bob oed ddod i chwarae.
Rhaid i oedolyn fod gyda phob plentyn.
A pheidiwch ag anghofio bod ein caffi yn gweini diodydd poeth ac oer yn ogystal â chacennau!
Ymholiadau drwy e-bost:
siwan_haf@live.co.uk
