Madaraja


Event Details

  • Date:
  • Categories:

Aisha Kigs | Abike Ogunlokun | Jessie Lezama | Hannah Newell | Kelvin Nziyoka | Liynyuuy Mifikela | Jean Samuel | Stephen Ndavi | Joseph Mdamanyi | Fred Mdamanyi | Jefferson Lobo | Palmer Ngale | Chembo Liandisha | Talk to Coco | Nnane Ntube

Rhagolwg: Dydd Gwener 18 Tachwedd, 7yh

Arddangosfa’n parhau tan 23 Rhagfyr

Oriel ar agor: Dydd Mercher – Sadwrn 11yb – 9yh

Mae Madaraja yn gofyn “sut gallwn ni ddychmygu celfyddydau cyfartal a dad-drefedigaethol pan fo naratifau diwylliannol blaenaf yn parhau i lunio ein profiadau a’n dychymyg cyfunol?”

Mae Panel Cynghori Is-Sahara wedi gweithio gyda chymunedau o leiafrifoedd hiliol a phobl greadigol, i sefydlu cyfryngau dad-drefedigaethol ar gyfer diwylliant, gan gyfuno offer digidol a thraddodiadol a thynnu ar ddiwylliannau Affricanaidd ac alltudol. Bwriad Madaraja yw gweithredu’n lleol ond meddwl yn fyd-eang, tra’n adeiladu pontydd sy’n cysylltu Cymru a chyfandir Affrica. Mae Panel Cynghori Is-Sahara wedi cysylltu’n uniongyrchol â phobl greadigol, diwylliannau ac ieithoedd; yn archwilio hierarchaethau a photensial offer gweledol, barddonol a chreadigol, ystum i gyfleu naratifau, emosiynau ac atgofion.

Wedi’i hariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae Madaraja wedi comisiynu 15 o artistiaid o bob rhan o Gymru (gan gynnwys Caerdydd, Abertawe, Bangor, a Wrecsam) a chyfandir Affrica (gan gynnwys Cenia, Camerŵn a Thansanïa). Daw artistiaid Madaraja o ystod amrywiol o gefndiroedd, profiadau, a disgyblaethau (fel peintio, barddoniaeth, sain ffilm a chyfryngau cymysg).

Ffurfiwyd Panel Cynghori Is-Sahara yn 2009 pan gyfarfu nifer o grwpiau alltud Affricanaidd yng Nghymru i ystyried sut y gallent gyda’i gilydd hybu eu diddordeb cyffredin mewn materion lleol sy’n effeithio ar gymunedau Affricanaidd yng Nghymru yn ogystal â’r rhai yn Affrica.

‘Nid ydym yn sefydliad sy’n cynrychioli cymunedau Affricaniaid Alltud yng Nghymru ond yn hytrach yn un sy’n ceisio defnyddio’r sgiliau, y gallu a’r wybodaeth a geir o fewn cymunedau Affricanaidd Cymreig alltud er budd pawb. Rydym am ddod â’n profiadau bywyd a darparu gwiriad realiti i’r sector elusennol yn ogystal a dadlau dros alltud am ddatblygiad. Gwnawn hyn drwy roi mentrau datblygu ar waith yng Nghymru ac ar draws Affrica Is-Sahara’.