Mae Caffi Cymraeg ‘Speak Easy’


Event Details

This event finished on 29 October 2025


Ni nôl!! Mae Caffi Cymraeg ‘Speak Easy’ ar agor bob dydd Mercher olaf y mis o Fai 28ain.

Amser: 6pm -7pm ac mae e AM DDIM!

Defnyddiwch Gymraeg sgyrsiol i sgwrsio am Gelf, bywyd a phopeth arall! Mae’r sesiynau’n hamddenol a phleserus, wedi’u strwythuro gyda gemau ac awgrymiadau hwyliog i adeiladu eich hyder i ddefnyddio Cymraeg bob dydd a dod â’n hiaith hardd yn ôl yn fyw yn Oriel/bar Elysium.

Mae’n RHAD AC AM DDIM i ddod i’r sesiynau hyn – felly dewch draw am ddiod poeth neu oer, mae croeso i chi sgwrsio gyda ni a dim ond arsylwi ar y dechrau – fydd neb yn gwthio chi allan o’ch man cysurus – oni bai eich bod chi eisiau i ni neud!!

Welwn ni chi yno!