Mae Marchnad Celf a Chrefft oriel elysium


Event Details


Mae Marchnad Celf a Chrefft oriel elysium yn dychwelyd yn ein lleoliad ar Stryd Fawr Abertawe Ddydd Sadwrn 23 Medi.

Mae Marchnadoedd Celf a Chrefft tymhorol elysium yn brolio cymysgedd amrywiol o gelf fforddiadwy gan artistiaid ‘newydd’ a rhai sefydledig, ac mae wedi dod yn rhan boblogaidd o raglen oriel elysium.

Bydd 20+ o stondinau artistiaid gyda gweithgareddau amrywiol yn digwydd o amgylch y lleoliad.

Bydd y Farchnad Gelf yn cydredeg â’n harddangosfa Ffotograffiaeth newydd mewn partneriaeth â Ffotogallery a’r arddangosfa Celf yn y Bar ddiweddaraf –
Laurentina Myksys: Motherland (Mamwlad).

Mynediad am Ddim; Bar yn gweini lluniaeth poeth ac oer ar agor drwy’r dydd!

Os ydych yn artist ac yn dymuno archebu stondin ebostiwch

info@elysiumgallery.com am ragor o wybodaeth