Rydym yn falch o gyflwyno arddangosfa gyntaf Peintio Dwyflynyddol Beep Plant!
Wedi’i gwneud gan blant 3 – 16 oed, mae’r arddangosfa hon yn ddathliad o greadigrwydd arlunwyr ifanc Abertawe.
Gyda diolch anferthol i’r artist Jenny Chisolm sydd wedi bod yn gweithio gyda myfyrwyr Ysgol Gynradd Gatholig Dewi Sant, Ysgol Gynradd Penyrheol, ac Ysgolion Cynradd Pennard a Pengelli, yn ogystal ag Oriel Mission a Lucy Donald a thîm gweithdai oriel elysium sydd hefyd wedi bod yn gweithio gydag artistiaid ifanc y ddinas tuag at yr arddangosfa.
Lleoliad: Theatr Volcano, 27-29 Stryd Fawr, Abertawe, SA1 1LG
Dyddiadau: 9 Tachwedd – 21 Rhagfyr 2024
Ar Agor: Dydd Mawrth – Sad 10yb-5yp