Sesiynau Dosbarth Meistr Dydd Sul
Rydym yn cynnal cyfres o ddosbarthiadau meistr celf ar ddydd Sul 11yb -3yp. Mae’r sesiynau hyn yn seiliedig ar sgiliau a’u nod yw addysgu artistiaid, myfyrwyr ac amaturiaid sut i ddefnyddio deunyddiau ac offer arbenigol, ble i’w prynu a galluogi cyfranogwyr i gael awgrymiadau a thechnegau gan artistiaid proffesiynol.
Mae’r gyfres hon o ddosbarthiadau meistr yn cael eu harwain gan arweinydd Gweithdy Celf Oriel Elysium, Lucy Donald M.A. Mae Lucy yn artist ac athrawes brofiadol, wedi gweithio yn rhai o ysgolion a cholegau mwyaf mawreddog y DU ac mae’n arddangos yn rhyngwladol.
Mae pob sesiwn yn £30. £25 i rai dros 60 oed.
Darperir yr holl ddeunyddiau.
Archebwch trwy e-bostio lucy@elysiumgallery.com
Ionawr Sul 19eg
Arbrofi gyda phaent dyfrlliw.
Peintio portreadau dyfrlliw, archwilio amrywiaeth o dechnegau y gellir eu cyflawni gyda gwahanol bapurau a brwshys.
Chwefror Sul 2il
Cyflwyniad i ddefnyddio Tempera Wy
Cymysgu eich paent eich hun a defnyddio technegau tempera wy hynafol i adeiladu haenau lliw a manylion
Chwefror Sul 16eg
Cerflunio gyda Cardbord
Defnyddio bocsys cardbord gwastraff i greu ffurfiau a strwythurau.
Mawrth Sul 2il
Argraffu heb Wasg
Defnyddio inciau argraffu llai niweidiol i’r amgylchedd i argraffu heb wasg.
