Sgwrs Artist Ar-lein: Charlotte Brisland
📅 Dydd Mawrth 24 Tachwedd, 7yh
📍 Ar-lein trwy Zoom
🎟️ Rhad ac am ddim i fynychu
Ymunwch â ni ar gyfer sgwrs artist ar-lein gyda Charlotte Brisland, un o brif enillwyr gwobrau Peintio Eilflwydd Beep 2024.
Mae Charlotte yn beintiwr o Brydain, yn gyn-fyfyrwraig o’r Coleg Celf Brenhinol ac yn ddarlithydd mewn Celfyddyd Gain (Peintio) ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae ei gwaith wedi cael ei arddangos yn rhyngwladol, gan gynnwys yn y Barbican Centre yn Llundain, 24 Stunden Neukölln yn Berlin ac Agora Gallery yn Efrog Newydd.
Mae hi wedi derbyn nifer o wobrau mawreddog, gan gynnwys Gwobr Beintio Jackson (Jackson’s Painting Prize) yn 2018 a Gwobr Beintio Beep (Beep Painting Prize) yn 2024. Mae Charlotte yn artist craidd gyda Circle Contemporary ac Oriel Irving Gallery, ac yn cael ei chynrychioli gan Oriel Candida Stevens Gallery.
Yn y sgwrs hon, bydd Charlotte yn trafod ei hymarfer artistig, ei dull o beintio a’r syniadau y tu ôl i’w gwaith. Bydd yn cynnig cipolwg ar ddatblygiad ei hymarfer a’i harddangosfa ddiweddar, Safe as Milk, yn Oriel Elysium, ynghyd â chyd-enillwyr gwobr Peintio Beep 2024, Susan Adams a Zena Blackwell.
Dolen Zoom:
https://us02web.zoom.us/j/84699973687?pwd=eV60FbqPmzTZt4pKT2NDmFOIAgVOKH.1
