Sgwrs artist ar-lein: Lee Grandjean


Event Details


Sgwrs artist ar-lein: Lee Grandjean

Mae Oriel Elysium yn eich gwahodd i’r diweddaraf o’n cyfres arbennig o sgyrsiau ar-lein.

Pwnc: Sgwrs Materion Materol 3

Amser: 23 Ebrill 2024 7:00 yh amser Cymru

Ymunwch â Chyfarfod Zoom

https://us02web.zoom.us/j/81377016140

ID Cyfarfod: 813 7701 6140

Curadir Materion Materol gan Sarah Tombs gyda Sokari Douglas Camp, Lee Grandjean, Marie-Therese Ross ac Andrew Sabin.

Mae Materion Materol yn archwilio’r berthynas rhwng proses a pherthnasedd, sut mae’r cerflunydd, trwy arbrofi a thrin, yn gallu cynhyrchu gwrthrychau cerfluniol y mae eu cynnwys a’u cymhellion yn hygyrch i gynulleidfa.

Mae gwaith Grandjean yn ymdrin â ffurf ac elfennau darluniadol. Wrth galon ei ymarfer mae cerfio pren, sy’n cael ei ddadadeiladu ac yna’i ail-weithio, gan greu cyfuniadau o ffurfiau wedi’u gwneud o goncrit, rhwyll a phlastig. Rhoddir lliw ar yr arwyneb sy’n atgyfnerthu’r cerfluniau.

‘I mi, mae’n rhaid gwthio deunyddiau y tu hwnt i’w nodweddion llythrennol, nid harddwch yw’r nod, ond egni a phresenoldeb cerfluniol dilys a chredadwy lle mae ffurf, a chynnwys yn un’.

Mae ei gorff newydd o waith Arwyr yn ymateb i fywyd blaenorol Elysium fel clwb nos. Mae Grandjean wedi creu cyfres o ‘ddathlwyr’ sy’n rhyngweithio â phensaernïaeth yr oriel.

‘Wrth ymateb i’r her o ddod â chorff o waith i Oriel Elysium, cefais fy swyno gan yr enw a’r ffordd yr agorodd ynof ail-gyfaredd â’r mythau Groegaidd a ddarllenodd fy mam i mi pan oeddwn yn ifanc. Y mythau hynny wrth gwrs sy’n sail i gymaint o gelf Gorllewin Ewrop. Penderfynais gymryd rhai cymeriadau o fythau Groegaidd ymlaen a’u defnyddio’n ddiamwys fel testun ar gyfer cyfres o gerfluniau. Mae mythau bob amser yn drosiadau wrth gwrs, sy’n amlygu gwendidau dynol sy’n sail i unrhyw orchest.’

Cerflunydd, drafftsmon ac athro, a aned yn Llundain, er iddo fyw am ran o’i ieuenctid yn Rwmania. Astudiodd yng Ngholeg Polytechnig Gogledd-Ddwyrain Llundain, 1967–8, yna Ysgol Gelf Winchester, 1968–71. Roedd gan Grandjean stiwdio yn Llundain, 1971–80, yna symudodd i Reepham, Norfolk. O 1980–1 bu’n gymrawd ymchwil mewn cerflunwaith yn Ysgol Gelf Winchester, ar ôl darlithio yn Ysgol Gelf Wimbledon ers 1976, penodwyd yn uwch diwtor o 1977. Ym 1991 daeth yn diwtor cerflunwaith yn y Coleg Celf Brenhinol. Gweithiodd yn eang hefyd fel darlithydd gwadd ac arholwr.

Mae Grandjean yn gweithio mewn amrywiol ddeunyddiau ac mae ganddo ddiddordeb mewn “trawsnewid deunydd” a chyda gwareiddiadau an-Ewropeaidd ac hynafol rhanwyd awydd i “roi deunyddiau crai yn sylwedd mynegiannol arall.”

Dangosodd mewn arddangosfeydd awyr agored, megis Parc Cerfluniau Swydd Efrog, Parc Cannizaro yn Wimbledon a chymerodd ran yn sioe Ymddiriedolaeth Cerfluniau Cymru Margam 1983, Cerflunwaith mewn Parc Gwledig. Ymhlith arddangosfeydd unigol diweddarach Grandjean roedd King of Hearts, Norwich, 1996, a Groundwork, Oriel Djanoly, Nottingham, 1998.

Yn 2023 cynhaliodd ‘Seeing Things’ adolygol yn Oriel Gibberd, Harlow. Mae ei waith mewn llawer o gasgliadau preifat a chyhoeddus gan gynnwys Cyngor y Celfyddydau.

Rhagolwg: Dydd Gwener 29 Mawrth 7yh

Arddangosfa’n parhau tan Ddydd Sadwrn 11 Mai.

Oriau agor: Dydd Mercher – Sad 11yb – 7yh