Eisiau dysgu am y diwydiant ffilm a theledu yng Nghymru?
Rhoi cynnig ar weithgareddau creadigol y tu ôl i’r llenni?
Ymweld â stiwdio ffilm a theledu?
Cael cyngor unigol ar hyfforddiant a chyfleoedd gwaith?
Cyflwyniad 4 diwrnod Troed yn y Drws
i Ffilm a Theledu yw’r cyfle i chi!
Dydd Llun 4 Mawrth – Dydd Iau 7Mawrth 2024, 10.00am – 2.00pm
ORIEL ELYSIUM, 210 STRYD FAWR, ABERTAWE, SA1 1PE, CYMRU, UK
Nid oes angen unrhyw brofiad.
Mae’n rhaid eich bod chi ar gael a rhaid i chi gofrestru ar gyfer y cwrs 4 diwrnod cyfan.
Mae’r cwrs hwn yn rhad ac am ddim ac mae cinio a lluniaeth yn cael eu darparu.
Gallwn gynnig cymorth i chi ar gyfer teithio, gofal plant ac unrhyw gostau mynediad sydd eu hangen er mwyn i chi fynd i’r cwrs.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ac i archebu lle, cysylltwch ag Jody jody@bulldozerfilms.co.uk
Archebwch eich lle yma:
https://www.eventbrite.co.uk/e/foot-in-the-door-intro-to-film-and-tv-tickets-845854923847?aff=oddtdtcreator
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn un o golofnau canolog agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU a bydd yn darparu £2.6 biliwn o gyllid i’w fuddsoddi’n lleol erbyn mis Mawrth 2025. Mae’r swydd hwn yn cael ei gyllido gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
