Gweithdai Ystafell Dywyll Ffotograffiaeth Gynaliadwy
Dyddiadau/amseroedd: 11yb, 1yh a 3yh ar Ddydd Sadwrn 5ed a Dydd Sul 6 Hydref
Angen arbed lle – E-bost: dan@elysiumgallery.com
Bydd y gweithdai yn archwilio cymysgu eich cemegau eich hun i brosesu printiau arian gan gymysgu datblygwr a gosodwr. Gan ddefnyddio gwahanol gyfansoddion organig i archwilio’r broses argraffu, bydd popeth yn cael ei wneud o dan amodau golau coch mewn ystafell dywyll.
Yn ystod y gweithdy byddwn yn creu ffotogramau gan ddefnyddio gwahanol wrthrychau, yn naturiol ac o waith dyn. (wedi’i darparu )
Mae’r gweithdy yn agored i bawb dros 9 oed.
Mae angen i blant fod yng nghwmni rhiant/gofalwr.
Mae Daniel Staveley yn ffotograffydd analog arbrofol sy’n gweithio yn yr ystafell dywyll, yn creu delweddau du a gwyn gan ddefnyddio dŵr wedi’i ailgylchu, ac amrywiaeth o gemegau anniweidiol i greu delweddau haniaethol ac wedi’u hargraffu’n ddigidol.
Bydd yna hefyd gerddoriaeth fyw trwy’r penwythnos trwy gydol y dyddiau i mewn gyda’r nos fel rhan o Ŵyl Ymylol Abertawe.