Heb Ffiniau Fenis
Rhagolwg Dydd Sadwrn 15 Hydref, 2yp
Yn parhau tan 27 Tachwedd
Mae Heb Ffiniau yn arddangosfa esblygol sy’n dwyn ynghyd 22 o gymunedau a bron i 300 o artistiaid o bob cwr o’r byd.
Mae Heb Ffiniau yn ceisio cael gwared ar rwystrau, creu cynghreiriau, a chysylltu â chymdogion. Ei nod yw dod â phobl greadigol ynghyd, i gydweithio mewn arddangosfa deithiol ryngwladol o weithiau ar bapur – casgliad o dudalennau artistiaid.
Ar ddiwedd pob arddangosfa, bydd y tudalennau’n cael eu rhwymo at ei gilydd i wneud llyfr a’u cludo i leoliad arall i’w tynnu ar wahân, eu harddangos, ac yna eu hailosod cyn symud eto i’w lleoliad nesaf.
Curadwyd gan Heather Parnell a Jonathan Powell