Karen Hopkins: Y Tu Hwnt i’r Arwyneb
06/02/26 – 04/04/26
Rhagolwg: Dydd Gwener 6ed Chwefror 7yh
Mae Karen Hopkins yn arlunydd corfforol a greddfol, gan greu tirweddau gweadog a haniaethol deinamig. Er iddi gael ei geni a’i lleoli yng Nghymru, mae ei theithiau helaeth a’i bywyd yn Ne America yn llywio ei phroses a’i diddordeb mewn patrymau organig yn ein byd naturiol.
‘Ar ôl cael fy magu mewn tirwedd ôl-ddiwydiannol, teithiais yn helaeth cyn dychwelyd adref.
Rwy’n mynd am dro hir gyda fy nghi bob dydd drwy natur a’r arfordir. Rwy’n cael fy swyno gan batrymau arwyneb a malurion diwydiant y gorffennol, sy’n llenwi’r traeth a sut mae wedi uno dros amser â natur. Rwy’n effro i’r cerfluniau unigryw tebyg i emau, a gynhyrchir gan gyfuniad o’r fath.
Rwy’n arbrofi gyda deunyddiau domestig a naturiol ac yn cael fy swyno gan yr adwaith lle mae’r gwenwynig a’r naturiol yn gwrthdaro. Rwy’n peintio’n reddfol ac yn gorfforol, trwy dywallt, crafu a thorri ar gynfasau, gan ddatgelu marciau’r gorffennol sy’n llywio fy nhaith aml-haenog’.
Nodweddir gwaith amwys, dienw Karen gan ei chymhwysiad corfforol ac adwaith sylweddau anarferol sy’n ceisio dal hanfod lle, y mae’r gwyliwr wedi ymweld ag ef eisioes.
Graddiodd Karen Hopkins o Ysgol Gelfyddydau Caerfyrddin ac mae wedi arddangos ei gwaith yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae arddangosfeydd unigol yn cynnwys:
‘Snapshots’ Mojitonet Taganga, Colombia 2009
‘Lockdown Landscapes’ Caffi Lolfa Mehefin 2022,
‘Raw Reflections’ HYVE T1 Mehefin 2023,
