Laurentina Miksys: Motherland (Mamwlad)
Mae ffotograffiaeth Laurentina Miksys yn gysylltiedig â chreu ffurfiau newydd yn gyson, cyd-dreiddiad y gorffennol a’r presennol.
Mae ei ffotograffiaeth yn archwilio lefelau amrywiol o realiti: realiti pwy neu beth sy’n cael ei ddisgrifio gan y ddelwedd a realiti profiad a theimlad – boed yn rhai y destun, y gwylwyr, neu ei rhai hi. Dyma beth rydyn ni’n ei ddwyn i’r ddelwedd ac, ar ôl ei thrawsnewid, yn cymryd gyda ni. Disgrifir realiti bywyd yn ei ffotograffau fel cyfanwaith parhaus ond cyfnewidiol. ‘Mae fel pwls bywyd’.
Mae Motherland (Mamwlad) yn gydweithrediad creadigol rhwng y ffotograffydd Laurentina, a’r gyfansoddwraig Angharad Jenkins. ‘Mae Motherland (Mamwlad) yn wahoddiad i gofleidio pŵer mamolaeth fel grym cyffredinol, gan fynd y tu hwnt i ffiniau, diwylliannau, ac ieithoedd. Mae’n ddathliad o’r cariad diamod, gwydnwch, a thrawsnewidiad sydd wrth wraidd profiad y fam.
‘Trwy’r casgliad hwn o ffotograffau, rwy’n gobeithio tanio sgyrsiau, herio syniadau rhagdybiedig, ac ysbrydoli ymdeimlad o ddiolchgarwch i’r menywod rhyfeddol sydd wedi ein meithrin ni i gyd’.
Mae Laurentina yn ffotograffydd portreadau yn wreiddiol o Lithuania ac ar hyn o bryd yn astudio MA Ffotograffiaeth Deialogau Cyfoes yn PCYDDS.