Materion Materol

Materion Materol

Sokari Douglas Camp | Lee Grandjean | Marie-Therese Ross | Andrew Sabin

Rhagolwg: Dydd Gwener Mawrth 29ain 7yh.

Arddangosfa’n parhau tan Ddydd Sadwrn Mai 11eg.

Oriau agored: Dydd Mercher – Sad 11yb – 7yh

Sgyrsiau artistiaid ar-lein:

  1. Mawrth 9fed Ebrill 7yh – Branwen Jones, Luke Cotter ac Amelie Warner
  2. Mawrth 16eg Ebrill 7yh – Andrew Sabin
  3. Mawrth 23ain Ebrill 7yh – Lee Grandjean
  4. Mawrth 30ain Ebrill 7yh – Sokari Douglas Camp
  5. Mawth Mai 7fed 7yh – Marie-Therese Ross

Mae Materion Materol, wedi’i churadu gan yr artist Sarah Tombs, yn dod â gwaith pedwar cerflunydd Prydeinig cyfoes ynghyd.

Mae’r arddangosfa’n archwilio’r berthynas rhwng proses a pherthnasedd, sut mae’r cerflunydd, trwy arbrofi a thrin, yn gallu cynhyrchu gwrthrychau cerfluniol y mae eu cynnwys a’u cymhellion yn hygyrch i gynulleidfa.

Mae ymgysylltu â deunyddiau a phrosesau ‘gwneud’ yn ddadl arbennig o berthnasol gydag argaeledd cynyddol technoleg ddigidol, Gweithgynhyrchu â Chymorth Cyfrifiadur a chydag ymddangosiad AI yn bygwth gwneud ymdrech artistig ddynol yn ddiangen.

Mae Materion Materol yn ymchwilio i ffyrdd y mae’r cerflunwyr hyn yn cyfuno defnyddiau a thechnegau anhraddodiadol a thraddodiadol a sut maent yn delio ag elfennau o adeiladwaith, arwyneb a lliw. Mae’r cerflunwyr sy’n arddangos wedi sefydlu ymarferion ers sawl degawd ac mae’r arddangosfa hon yn tynnu ar gysylltiadau rhwng eu dulliau. Mae dod at eu gilydd yn gyfle unigryw i archwilio’r rhagosodiad cerfluniol craidd hwn.

Mae Sabin yn defnyddio ystod eang o ddeunyddiau, gan gynnwys sylweddau bwytadwy byrhoedlog a geir fel arfer yn y gegin, fel margarîn, i greu ffurfiau cerfluniol penodol sy’n cael eu trawsnewid yn wrthrychau parhaol plastig lliwgar a sgleiniog iawn. Mae’n defnyddio prosesau weldio ac adeiladu diwydiannol yn ei gerfluniau sy’n sefyll yn annibynnol, yn seiliedig ar wrthrychau sydd wedi’u hadeiladu o sment, dur, polywrethan a ffôm ehangu. “Rwy’n credu taw gwaith cerflunydd yw profi deunyddiau. Nid yw’n dod heb rwystrau, ond rwy’n hoffi brwydr gerfluniol dda.”

Mae gwaith Grandjean yn ymdrin â ffurf ac elfennau darluniadol. Wrth galon ei ymarfer mae cerfio pren, sy’n cael ei ddadadeiladu ac yna’i ail-weithio, gan greu cyfuniadau o ffurfiau wedi’u gwneud o goncrit, rhwyll a phlastig. Rhoddir lliw ar yr arwyneb sy’n atgyfnerthu’r cerfluniau.

‘I mi, mae’n rhaid gwthio deunyddiau y tu hwnt i’w nodweddion llythrennol, nid harddwch yw’r nod, ond egni a phresenoldeb cerfluniol dilys a chredadwy lle mae ffurf, a chynnwys yn un’.

Mae ei gorff newydd o waith Arwyr yn ymateb i fywyd blaenorol Elysium fel clwb nos. Mae Grandjean wedi creu cyfres o ‘ddathlwyr’ sy’n rhyngweithio â phensaernïaeth yr oriel.

‘Wrth ymateb i’r her o ddod â chorff o waith i Oriel Elysium, cefais fy swyno gan yr enw a’r ffordd yr agorodd ynof ail-gyfaredd â’r mythau Groegaidd a ddarllenodd fy mam i mi pan oeddwn yn ifanc. Y mythau hynny wrth gwrs sy’n sail i gymaint o gelf Gorllewin Ewrop. Penderfynais gymryd rhai cymeriadau o fythau Groegaidd ymlaen a’u defnyddio’n ddiamwys fel testun ar gyfer cyfres o gerfluniau. Mae mythau bob amser yn drosiadau wrth gwrs, sy’n amlygu gwendidau dynol sy’n sail i unrhyw orchest.’

Mae cerfluniau Marie-Therese Ross wedi’u gwneud o gyfuniad o rannau pren wedi’u lamineiddio. Mae’n defnyddio gwrthrychau a ddarganfuwyd sy’n cael eu hintegreiddio a’u thrawsffurfio i mewn i’r gweithiau gyda phren sydd wedi’i gerfio a beintio- mae lliw yn ychwanegu haen arall o fynegiant ac ystyr i’r cyfanwaith. Mae màs y pren yn adleisio’r llinellau wedi’u arlunio a’u torri allan a geir yn ei darluniau a’i gludweithiau, gan fenthyg ei hun yn dda i’w phroses o weithio.

Ar gyfer yr arddangosfa hon mae Ross wedi canolbwyntio ar farddoniaeth a bywyd Dylan Thomas. Yn arbennig, mae ‘A Winter’s Tale’ a ‘Lie Still, Sleep Becalmed’ wedi ysbrydoli’r artist, gan ddarganfod profiadau a rennir gyda’r bardd, ac archwilio’r rhain yn ei gweithiau newydd. Bydd y gosodiad yn archwilio marwoldeb ac yn ymgorffori gyfeiliant.

Mae Douglas Camp yn trawsnewid drymiau olew ac yn llunio dur i mewn i gerfluniau ffigurol sydd yn aml wedi’i wreiddio yn niwylliant Affricanaidd lle ganwyd yr artist. Mae ei gwaith yn hynod o liwgar, ac yn defnyddio elfennau patrwm, tecstilau ac addurniadol. Yn hytrach na dylunio a thorri â laser mae Camp yn ‘arlunio’ patrymau â llaw gan ddefnyddio chwythlamp i dorri i mewn i’r llen ddur.

Disgrifia ei gwaith fel ‘y llawenydd o wneud’, fodd bynnag mae ei gwaith hefyd yn wleidyddol ac wedi’i wreiddio yn niwylliant Affricanaidd; mae ei defnydd o ddrymiau olew i greu harddwch yn ddatganiad ymwybodol ac ingol o gynhyrchiad olew Delta Niger ac mae’n un o’r lleoedd mwyaf llygredig yn y byd.

Fel rhan o Materion Materol, bydd Elysium hefyd yn cynnal gwaith tri myfyriwr Celfyddyd Gain Coleg Celf Abertawe (gan gyfnewid drwy gydol y sioe) i arddangos ochr yn ochr â’r pedwar artist arall yn ei Gofod Arbrofi newydd. Mae hon yn rhan o’r oriel sydd wedi’i neilltuo ar gyfer artistiaid sy’n dod i’r amlwg i arbrofi gyda gwaith newydd a dod yn rhan o raglen arddangosfeydd Oriel Elysium.

Yr artistiaid yw Branwen Jones, Luke Cotter ac Amelie Warner.

Am yr artistiaid:

Sokari Douglas Camp

Ganwyd Sokari Douglas Camp yn Buguma, Nigeria, ym 1958, ac mae’n byw ac yn gweithio yn Llundain, y DU. Arddangosodd am y tro cyntaf yn Oriel October ym 1985. Mae hi wedi cael mwy na deugain o sioeau unigol ledled y byd ac yn 2005 dyfarnwyd CBE i Douglas Camp i gydnabod ei gwasanaethau i gelf. Mae ei gwaith yng nghasgliadau parhaol Amgueddfa Genedlaethol Celf Affricanaidd, Sefydliad Smithsonian, Washington, D.C., UDA; Amgueddfa Gelf Setagaya, Tokyo, Japan; a’r Amgueddfa Brydeinig, Llundain, DU. Yn 2012, cafodd ei cherflun mawr, All the World is Now Richer, cofeb i goffáu dileu caethwasiaeth, ei harddangos yn Nhŷ’r Cyffredin ac yna, yn 2014, yn Eglwys Gadeiriol St Paul’s, Llundain.

Yn 2016, daeth Douglas Camp â cherfluniau mawr newydd at ei gilydd a oedd yn canolbwyntio ar ailddehongli ffigurau cyfarwydd o’r traddodiad clasurol Ewropeaidd fel y’u darluniwyd gan Botticelli a William Blake. ‘Europe Supported by Africa and America’ yn y V&A i ategu arddangosfa Ffasiwn Affrica. Roedd y cerflun dur anferth i’w weld yn Orielau Dorothy a Michael Hintze tan 14 Mai 2023.

Bydd Douglas Camp yn cymryd rhan yn Ichihara Art Mix 2024 Japan

Lee Grandjean

Cerflunydd, drafftsmon ac athro, a aned yn Llundain, er iddo fyw am ran o’i ieuenctid yn Rwmania. Astudiodd yng Ngholeg Polytechnig Gogledd-Ddwyrain Llundain, 1967–8, yna Ysgol Gelf Winchester, 1968–71. Roedd gan Grandjean stiwdio yn Llundain, 1971–80, yna symudodd i Reepham, Norfolk. O 1980–1 bu’n gymrawd ymchwil mewn cerflunwaith yn Ysgol Gelf Winchester, ar ôl darlithio yn Ysgol Gelf Wimbledon ers 1976, penodwyd yn uwch diwtor o 1977. Ym 1991 daeth yn diwtor cerflunwaith yn y Coleg Celf Brenhinol. Gweithiodd yn eang hefyd fel darlithydd gwadd ac arholwr.

Mae Grandjean yn gweithio mewn amrywiol ddeunyddiau ac mae ganddo ddiddordeb mewn “trawsnewid deunydd” a chyda gwareiddiadau an-Ewropeaidd rhanwyd awydd i “roi deunyddiau crai yn sylwedd mynegiannol arall.”

Dangosodd mewn arddangosfeydd awyr agored, megis Parc Cerfluniau Swydd Efrog, Parc Cannizaro yn Wimbledon a chymerodd ran yn sioe Ymddiriedolaeth Cerfluniau Cymru Margam 1983, Cerflunwaith mewn Parc Gwledig. Ymhlith arddangosfeydd unigol diweddarach Grandjean roedd King of Hearts, Norwich, 1996, a Groundwork, Oriel Djanoly, Nottingham, 1998.

Yn 2023 cynhaliodd ‘Seeing Things’ adolygol yn Oriel Gibberd, Harlow. Mae ei waith mewn llawer o gasgliadau preifat a chyhoeddus gan gynnwys Cyngor y Celfyddydau.

Marie-Thérèse Ross

Mae Marie-Thérèse Ross yn archwilio gweithrediadau cudd y meddwl, gan ganolbwyntio ar gyflyrau trawsnewid corfforol, emosiynol a seicolegol. Mae ei gwaith yn ymddangos yn ddoniol yn ogystal ag yn dywyll wrthdroadol, fel pe bai’n cuddio ei hun mewn golwg blaen. Mae hi’n creu gosodiadau atmosfferig gan greu tu mewn domestig gyda dodrefn anthropomorffig, cerfluniau wal ac adar du anferth wedi’u caethiwo. Trwy ganolbwyntio ar y tu mewn personol yn erbyn y byd allanol, mae Ross yn mynd i’r afael â themâu a syniadau sy’n cynnwys ffeministiaeth, plentyndod, marwoldeb, y corff, dadleoli, a’r cyflwr dynol.

Mae cerfluniau Ross wedi’u gwneud o gyfuniad o rannau pren wedi’u cerfio a’u lamineiddio a uwchgylchwyd. Yn ogystal â gwrthrychau a ddarganfuwyd sy’n cael eu hintegreiddio a’u trawsffurfio i’r gweithiau a’u peintio.

Ar gyfer yr arddangosfa hon mae Ross wedi canolbwyntio ar farddoniaeth a bywyd Dylan Thomas. Yn arbennig, mae ‘A Winter’s Tale’ a ‘Lie Still, Sleep Becalmed’ wedi ysbrydoli’r artist, gan ddarganfod profiadau a rennir gyda’r bardd ac archwilio’r rhain yn ei gweithiau newydd. Bydd y gosodiad yn archwilio marwoldeb ac yn ymgorffori gyfeiliant.

Mae Marie-Thérèse Ross MRSS yn aelod o Gymdeithas Frenhinol y Cerflunwyr ac yn byw ac yn gweithio yn Llundain. Astudiodd beintio yng Ngholeg Celf Loughborough ac mae ganddi radd Meistr mewn cerflunwaith o Brifysgol Pennsylvania UDA.

Andrew Sabin

Mae Andrew Sabin (ganwyd ym 1958) yn gerflunydd arbrofol Prydeinig sydd wedi gwneud cyfraniadau pwysig i osodiad, creu gwrthrychau a Chelf Tirwedd. Mae The Coldstones Cut yn Nyffrynnoedd Swydd Efrog yn un o’r cerfluniau tirwedd  mwyaf poblogaidd ym Mhrydain ac roedd gosodiad The Sea of Sun yn waith amlwg yn yr arddangosfa gyntaf o gerfluniau cyfoes yn Sefydliad Henry Moore, Leeds. Astudiodd Sabin gerflunwaith yn Ysgol Gelf Chelsea lle daeth yn uwch ddarlithydd yn ddiweddarach. Ar safle adeilad gwreiddiol Chelsea mae ei waith coffa ‘Painting and Sculpture’ wedi’i leoli’n barhaol.

Ochr yn ochr â’i bartner, Laura Ford, mae’n rhedeg rhaglen addysgol Mattblackbarn sy’n ymroddedig i astudio cerflunwaith ac sydd wedi’i lleoli yn eu stiwdios yng Ngorllewin Sussex.

‘I mi mae creu cerfluniau yn antur emosiynol y gall unrhyw un ymuno â hi. Pan fyddwn yn gosod y bwrdd neu’n golchi ein gwallt neu’n cloddio twll yn y ddaear rydym yn symud deunyddiau o gwmpas ac yn ymateb iddynt – doniol neu drist, y cyllyll a ffyrc mewn pentwr neu wedi’i osod mewn trefn, gwallt yn sticio allan mewn pigau neu wedi’i gywasgu mewn  mat, mae’n rhaid i ni ymddiried yn ein hymatebion, eu cymryd o ddifrif ac yna rydym ar y llwybr tuag at chwarae gyda cherflunwaith’.

Branwen Jones

Mae Branwen Jones yn artist sydd wedi’i lleoli yn Ne Cymru, ar hyn o bryd yn cwblhau BA mewn Celfyddyd Gain: Stiwdio, Safle a Chyd-destun yng Ngholeg Celf Abertawe. Mae ei gwaith yn archwilio’r berthynas rhwng deunydd a ffurf, a sut mae hanesion a syniadau wedi’u gwreiddio mewn deunyddiau a ffurfiau. Mae ganddi ddiddordeb yn hanesion a chymynroddion gwladychiaeth, ffurfiau moderniaeth a dychymyg gweledol y gorllewin, a sut mae’r hanesion a’r ffurfiau hyn wedi’u gwaddodi yng ngwead y presennol. Mae ganddi ddiddordeb hefyd yn y modd y mae syniadau’n dod yn rhan annatod o waith celf. Daw ei gwaith i’r amlwg o ganlyniad i ryngweithio rhwng syniadau ac ymateb y deunyddiau – eu maint, hyblygrwydd, sut y gellir eu siapio neu eu cysylltu neu eu huno. Gall hyn fod yn wahanol i’r ffordd y caiff syniadau eu mynegi mewn testun ysgrifenedig, gan gynnig mwy o le ar gyfer amwysedd, amhendantrwydd neu hiwmor.

Mae Jones yn mwynhau’r broses o ddyfeisio a byrfyfyrio sy’n angenrheidiol i wneud pethau, yn enwedig wrth weithio gyda defnyddiau cyffredin a geir mewn bywyd bob dydd. Er enghraifft, mae hi wedi gwneud gwaith gyda phapur newydd; cotwm a chwyr; clai naturiol o Bort Einon; clymau cebl plastig a’r tagiau plastig sy’n cysylltu tag pris ar eitem o ddillad. Mae hi’n defnyddio hen loriau pren i wneud set o offer, ac i wneud cypyrddau arddangos gwydr.

Yn ogystal â byrfyfyrio, mae hi wedi ymrwymo i archwilio defnyddiau a thechnegau nad ydynt wedi bod ar gael i fenywod yn hanesyddol, megis gwaith coed a gwaith metel. Mae ei gwaith wedi gofyn am ddysgu sut i wneud uniad tenon, sut i weldio ffrâm fetel, sut i dorri gwydr. Mae hyn yn deillio’n rhannol o’i phrofiad ysgol ei hun yn dysgu gwnïo ond dim gwaith saer. Mae hefyd yn ymateb i brofiad y byd cyfoes sy’n cael ei gyfryngu mor drylwyr gan sgriniau cyfrifiadur a ffonau symudol.

Luke Cotter

Mae Luke Cotter yn artist a anwyd yn Ne Cymru (2004) ac sydd ar hyn o bryd yn astudio BA Celfyddyd Gain yng Ngholeg Celf Abertawe, PCYDDS. Mae ei waith yn cynnwys gosodiadau a cherflunio yn bennaf, lle mae’n anelu at archwilio themâu gwastraff materol a’r gwerth a roddwn i’r deunyddiau hynny yn hanesyddol. Mae ei waith gan amlaf ar raddfa fawr ac yn amrywio o faint bywyd i faint ystafelloedd cyfan gan weithio gyda gosodiadau a cherflunio mewn ffordd sy’n ceisio ymgysylltu rhyngweithioldeb a chynwysoldeb. Un o’r rhannau annatod o ymarfer Luc yw’r defnydd o ddeunydd a ganfuwyd a’i gymhwyso o fewn cyd-destun pwrpas y deunyddiau hynny o’u cymharu â’r eiconau y maent yn eu hymgorffori. Mae ei waith i’w weld ar hyn o bryd yn y Glynn Vivian ac mae wedi dangos gweithiau eraill o’r blaen yng Nghaerdydd ac Abertawe gyda Golwg ar Gelf (2023) ac mewn sioeau Prifysgol fel Panoply (2023).

‘Gwneir y gwaith yn yr arddangosfa bron yn gyfan gwbl â deunyddiau y canfuwyd. Wrth wneud y darn hwn cefais fy niddordebu gan swyddogaeth sbringiau, gyda’r sbringiau hyn yn dod o set o gadeiriau a ddarganfyddais mewn sgip y tu ôl i’m prifysgol. Fe wnes i’r gwaith hwn gyda’r syniad o feddwl mewn ffordd blentynnaidd am sut i gael hwyl gyda’r deunyddiau hyn, gan ganiatáu i mi fy hun greu’r hyn sy’n deganau yn eu hanfod. Mae’r teganau hyn i gyd yn defnyddio’r sbringiau fel eu prif ffynhonnell swyddogaeth ac yn caniatáu ffordd o feddwl a oedd yn wirioneddol adfywiol a phleserus, yn enwedig wrth feddwl am gerfluniau sy’n caniatáu rhyngweithio haptig. Mae’r agwedd o ddefnyddio deunydd a ganfuwyd i greu yn caniatáu ffordd o greu sy’n gorfodi’ch llaw mewn sawl ffordd i addasu i natur y deunydd a’i wthio i’w derfynau sy’n rhywbeth yr wyf wedi ceisio ei ymgorffori yn y darn hwn’.

Amelie Warner

Mae Amelie Warner yn artist a aned yn Croydon (2004) sydd bellach yn gweithio yn Abertawe ac ar hyn o bryd yn astudio BA Celfyddyd Gain yng Ngholeg Celf Abertawe, PCYDDS. Mae Amelie wedi arddangos ei gwaith yn ei harddangosfa prifysgol Panoply (2023) o’r blaen, ond Materion Materol yw ei dangosiad cyhoeddus cyntaf o’i gwaith. Mae gwaith Amelie wedi’i amgylchynu o amgylch y syniad o greu bydoedd bach i eraill eu mwynhau. Mae creu’r bydoedd hyn yn heddychlon ac yn iachusol iddi hi ei hun. Mae Amelie yn edrych ar sut mae graddfa yn newid naws gwaith, gan dueddu i’r graddfeydd llai. Mae’r bydoedd y mae’n ei gwneud wedi’u gwreiddio mewn themâu o alar, perthyn a bod yn ecolegol ymwybodol.

‘Cyfres o dai bychain yw A World Unknown a wnaed o gardfwrdd a ddarganfuwyd mewn meintiau amrywiol. Y syniad y tu ôl i’r darn yw gwneud i’r gynulleidfa deimlo ymdeimlad o berthyn a’u bod yn gallu ymgolli eu hunain yn y tai hyn. Mae’r goleuadau cynnes sy’n dod allan o’r craciau i ymddangos yn groesawgar, fel tân cynnes. Dydw i ddim eisiau dweud wrth y gynulleidfa beth mae’r tai hyn yn ei olygu iddyn nhw na beth ddylen nhw deimlo, mater i chi yw dod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnoch chi. Mae gan bob tŷ pan fyddaf yn eu gwneud stori i mi. Er, nid yw’r tai hyn o reidrwydd yn gopïo tai a welaf ond mae’r bensaernïaeth sydd o’m cwmpas wedi ysbrydoli fy mhroses feddwl wrth wneud y gwahanol arddulliau o gartrefi. Nid adlewyrchiadau o’r byd mo’r rhain ond un cwbl newydd nad oes angen iddo ddilyn unrhyw reolau, mae’n bodoli. Mae pob adeilad yn gartref y byddai rhywun yn byw ynddo yn amrywio o fythynnod i flociau o fflatiau o bob cwr o’r byd. Am fod gan tŷ corfforol ymddangosiad wahanol i bawb’.

Am y Curadur

Sarah Tombs

Mae Sarah Tombs yn gerflunydd sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru a Llundain.

Ar ôl graddio o’r Coleg Celf Brenhinol ym 1987 sefydlodd Sarah ei ymarfer cerfluniol yn Llundain yn cynhyrchu cerfluniau cyhoeddus. Ochr yn ochr â’i cherflunio cyhoeddus a gomisiynwyd, mae hi wedi cymryd rhan mewn arddangosfeydd yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Cedwir ei gwaith mewn llawer o gasgliadau preifat, corfforaethol a chyhoeddus gan gynnwys Casgliad Celf y Llywodraeth, Ysbyty Hammersmith, Ymddiriedolaeth Iechyd Abertawe Bro Morgannwg, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Christies UK, a Linklaters UK.

Rhwng 2011 a 2015 Sarah oedd cadeirydd Sculpture Cymru gan arwain a chymryd rhan mewn prosiectau fel Castell: Cerflunwaith yng Nghastell Cydweli. Yn 2015 bu’n arwain y Prosiect Sculpture Cymru Barcode yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru (GFGC), gan weithio gyda’u tîm gwyddoniaeth i guradu llwybr cerflunwaith yn yr Ardd. Yn 2016-2017 roedd Sarah yn brif artist mewn prosiect celf/gwyddoniaeth Croesbeillio: Ailbrisio Peillwyr trwy Gelf a Gwyddoniaeth a ariannwyd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau a ddaeth ag artistiaid a gwyddonwyr at ei gilydd i ddod o hyd i ffyrdd creadigol o ddylanwadu ar benderfyniadau llunio polisi ar gyfer cadwraeth peillwyr. Cynhaliwyd cynhadledd ryngwladol ac arddangosfeydd yn GFGC, y Bug Farm ac SCA. Fel estyniad o’r prosiect hwn roedd Sarah yn artist preswyl gwadd ym Mhrifysgol Cornell a threfnodd a chyd-guradu arddangosfa a gynhaliwyd yn Oriel Mann, Prifysgol Cornell, NY yn 2019.

Ers 1993 cyfunodd Sarah ei hymarfer cerflunio ag addysgu mewn AU, gan gynnwys prifysgol Keele, Coleg Stafford, Coleg Celf Abertawe a Choleg Sir Gâr. Mae hi’n artist oriel llawrydd ac yn ddarlithydd yn yr Oriel Genedlaethol a Chasgliad Wallace, Llundain.

Daliodd Sarah swydd uwch ddarlithydd mewn Celfyddyd Gain ac Astudiaethau Cyd-destunol yng Ngholeg Celf Abertawe tan 2019 ac ar hyn o bryd mae’n Gymrawd Ymchwil anrhydeddus yno.

Cefnogir yr arddangosfa hon yn ddiolchgar gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad Henry Moore.