Rhagolwg: Dydd Gwener 3 Chwefror 7yh
Arddangosfa’n parhau tan 18 Mawrth
Oriel ar agor Dydd Mercher – Sad 11yb – 9yh
Sgwrs artist ar-lein Dydd Mawrth 21 Chwefror 7.30yh
Mae ‘Byd ei hun’ yn arddangosfa archwiliadol ei natur, taith o’i cydenw. Gan groesi cyfryngau yn ogystal â’r byw a’r dychmygol, mae’r artistiaid yn myfyrio ar y berthynas rhwng menywod a’r amgylcheddau y maent yn cael eu portreadu ynddynt; un yn wynebu, y llall yn cofleidio.
Mae bydoedd peintiedig, digidol a gweuedig yn cael eu creu a’u croesholi o fewn y sioe, gan gynnig cipolwg i mewn i’r pethau a welir, a phrofir, ac a ddyfeisir.
Mae gwaith Jones yn ail-gyd-destunoli menywod o ddelweddaeth ddarganfyddedig a ffynonellau sinematig, gan ffurfio amgylcheddau toredig a ffug lle gellir eu defnyddio i archwilio cof ac ymdeimlad o hunan.
Mae gweithiau Morley yn canolbwyntio ar gyfres o deyrnasoedd lle mae menywod yn cael eu trochi yn eu hamgylcheddau dychmygol, yn ddi-rwystr o fewn eu gofod ac yn bodoli tu fas o gyfyngiadau realiti.
Natasha Morley
Graddiodd Natasha Morley o Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd yn 2019 gyda BA Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Ymarfer Celfyddyd Gain. Ar hyn o bryd mae hi’n gweithio fel dylunydd digidol ac yn byw ym Mhontypridd, Cymru.
Mae ei chorff newydd o waith yn ddihangfa o’r byd o’n cwmpas. Y tu fas i ofod ac amser mae ei chymeriadau’n byw yn eu bydysawd fach rhyfeddol eu hunain gan ennyn ymdeimlad o ryddid. Llythyr cariad i fenywod, bywyd a byw’n ddi-ofn.
Er ei bod yn artist digidol yn bennaf mae’r sioe archwiliadol hon yn tynnu ei menywod darluniadol mas o’r sgrin ac i mewn i decstilau celfyddyd gain unigryw. Mae’r briodas hon rhwng dau gyfrwng yn cofleidio holl bosibiliadau technoleg fodern tra’n talu teyrnged i gelfyddyd sy’n hanesyddol fenywaidd.
Lucia Jones
Mae ymarfer Jones yn archwilio cof a chanfyddiad o’r hunan trwy ddyfeisiau paent a ffilm. Gan ddefnyddio delweddau ffynhonnell sinematig yn bennaf o b-ffilmiau rhyfeddol y 1950au-90au, mae’n mynd i’r afael â natur anghyffyrddadwy y cof ac argraffiadau cyfnewidiol momentau byw.
Gan ail-gyd-destunoli menywod o’r ffynonellau hyn, mae’r peintiadau yn yr arddangosfa hon yn ffurfio cyfres o ffigurau dienw sy’n meddiannu amgylcheddau toredig a ffug. Wedi’u rhyddhau o’u cyfrwng gwreiddiol a gwastadeddau bodolaeth, maent yn cael eu hamsugno i’r byd peintiedig y mae Jones wedi bod yn ei ddatblygu trwy gydol ei holl waith; eu cyd-destun wedi’i ail-greu a’u byd wedi’i siapio o’u cwmpas, maent yn gweithredu fel côd i’r profiadol – i gipedrych ar a’u harchwilio.
Mae Lucia Jones yn beintiwr sydd wedi ei lleoli yng Nghymru. Ers graddio o Brifysgol Falmouth yn 2014, mae hi wedi arddangos yn helaeth ledled y DU mewn arddangosfeydd unigol a grŵp gan gynnwys Gwobr Peintio BEEP 2018. Mae hi hefyd wedi bod ar restr hir sawl gwobr peintio gan gynnwys John Moores 2020 a Jackson’s Art Prize yn 2022. Mae ei gwaith ar hyn o bryd wedi’u cadw mewn casgliadau preifat yn Awstralia, Awstria, Hong Kong, y DU ac UDA.