OOPARTS * arteffactau allan o le

OOPARTS * arteffactau allan o le

Ben Hartley a Buoys Buoys Buoys

Rhagolwg: Dydd Iau 13 Ebrill. 6yh

Oriel Tri

Arddangosfa yn parhau tan 6 Mai.

Gwele! Arteffactau o hanes coll a dyfodol dyfaliadol; creiriau a seliau; maen nhw’n eich cymryd ar daith arallfydol i ofod lle mae amser mewn fflwcs. Archwiliwch sut mae’r gorffennol yn cael ei gorchuddio dan len o ddirgelwch, lle mae chwedlau a straeon yn ffurfio.

Mae Ooparts yn arddangosfa am wrthrychau, sut maen nhw’n gweithredu fel llestri ar gyfer y straeon a roddwyd iddynt gan draddodiad gwerin a chymunedol, a’u pwysigrwydd wrth adeiladu treftadaeth a hunaniaeth. Gan ddefnyddio dyfodol dyfaliadol ac arteffactau Cymreig ffuglennol, mae’r arddangosfa’n dod at ei gilydd creiriau dychmygol wedi’u hailddehongli â phethau sydd wedi cael ei chwilota, gan ddangos sut y gall y gwrthrychau a’r deunyddiau cyffredin hyn ddod yn lestri chwedlau.

Buoys Buoys Buoys: Mae Johnny Jones, a elwir hefyd yn Buoys, Buoys, Buoys yn fardd a aned yn Abertawe sy’n gweithio ym meysydd perfformiad byw, cerflunwaith a gosodiadau rhyngweithiol. Mae arddangos mewn orielau, amgylcheddau clwb ymdrochi, a llwyfannau cabaret ledled De Cymru a Lloegr wedi caniatáu iddynt ymgysylltu â themâu trosfwaol ac eclectig eu gwaith: Gwrywdod Cwiar, hud defodol cyfoes, a diwylliant gwerin Cymreig y dosbarth gweithiol. Ar genhadaeth i adeiladu golygfeydd lawen yn eu holl waith a thynnu o’r carnifalésg a’r disynnwyr, mae Buoys Buoys Buoys yn defnyddio eu hymarfer fel llestr i ennyn diddordeb cymunedau yn y broses o ailadrodd mytholegau Cymreig trwy chwerthin a chwarae cyhoeddus rhyfedd.

Ben Hartley: Mae Ben Hartley yn artist o Fryste sy’n gweithio’n bennaf mewn cerflunwaith a gosodiadau. Gan harneisio eu cyflwr parhaus o eco-bryder a’u diddordeb mewn gwastraff materol, am y pedair blynedd diwethaf mae ymarfer Ben wedi canolbwyntio ar arbrofi gyda dulliau effaith isel, an-echdynnol ac ecolegol gynaliadwy at wneud celf gyda ffocws ar ymarfer cerfluniol. Wedi’i lywio gan y dull hunan-gychwynnol o weithio’r Arfer Cylchol, ymchwil, mapio, hanesion gweledol a ffuglen dyfaliadol, mae gan Ben ddiddordeb mewn adrodd straeon trwy wrthrychau a deunyddiau.