Rhagolwg: Dydd Gwener 3 Chwefror, 7yh
Arddangosfa’n parhau tan 18 Mawrth
Oriel ar agor: Dydd Mercher – Sad 11yb – 9yh
MU yw’r arddangosfa ddiweddaraf o ymarfer celf digamsyniol Peter Finnemore. Heb naratif penodol neu thema unigol, mae’r gosodiad hwn yn archwilio iaith luosog ffotograffiaeth mewn perthynas â materoldeb, gosodiad, peintio, fideo, a gweithiau 3D. Term Zen yw MU sy’n archwilio’r gofod rhwng ystyron confensiynol a deuol. Mae’n botensial agoriad creadigol ac eang rhwng amrywiaeth set o ddeudodau cymhleth – o ofod ac amser, ie a na, rhwng rhesymeg a’r afresymol. Mae’r arddangosfa chwareus hon yn archwilio cyfres o berthnasoedd gweledol annisgwyl a’r gorgyffwrdd creadigol rhwng cyrff amrywiol o waith celf.
Mae Peter Finnemore yn artist llawrydd ac yn Gymrawd Gwadd ym Mhrifysgol De Cymru. Yn tarddu o ymholiad dirfodol, mae’n ceisio “gwneud yn weladwy”. Mae Finnemore yn nodedig am ei brosiectau hirdymor ar y cyflwr dynol, cof cenhedlaethol, cartref, natur, diwylliant, hanes a’r dirwedd ôl-ddiwydiannol. Cynrychiolodd Finnemore Gymru ym Miennale Fenis 1997. Mae ei waith celf mewn nifer o gasgliadau cyhoeddus, gan gynnwys Casgliad Cyngor y Celfyddydau, Amgueddfa Gelf Princeton a Chanolfan Gelf Chrysler. Yn ddiweddar mae wedi ei gynnwys yn yr arolwg llyfrau ffotograffig rhyngwladol mawr – Photography Today, Contemporary Photography since 1960 – Thames & Hudson, 2015. Mae’n byw ac yn gweithio yng Nghymru.