Preswylfa Gwobr Graddedigion Oriel Elysium

Ers 2025, mae Gwobr Graddedigion Oriel Elysium wedi cael ei chyflwyno i artistiaid 3-D rhagorol sy’n graddio o Goleg Celf Abertawe.

Mae’r wobr yn cefnogi artistiaid sy’n dod i’r amlwg yn ystod y flwyddyn gyntaf hollbwysig ar ôl graddio, pan all colli strwythur cymorth y brifysgol a phwysau ariannol cynyddol gael effaith sylweddol ar ymarfer artist. Cynigir preswylfa flwyddyn o hyd i bob derbynnydd yn stiwdios artistiaid Elysium, ochr yn ochr â chyfleoedd datblygiad proffesiynol, mentora a chefnogaeth, gan arwain at arddangosfa o’u gwaith.

Mae’r wobr yn cydnabod artistiaid sy’n dangos dull nodedig a diddorol o gerflunio ac ymarfer 3-D, gyda pharodrwydd i arbrofi gyda deunyddiau, syniadau a phrosesau, ac ymrwymiad i ddatblygu bywyd cynaliadwy yn y celfyddydau.

Derbynwyr Gwobrau Graddedigion