Distawrwydd – Y Negesydd a’r Trosiad
Rhagolwg: Dydd Sadwrn 20 Mai 7yh
Arddangosfa’n parhau tan Ddydd Sadwrn 1 Gorffennaf
Oriel ar agor Dydd Merch – Sad 11yb-9yh
Yr artist yn sgwrsio gyda’r cerflun Mark Halliday
Sgwrs artist ar-lein Dydd Mawrth 23 Mai, 7.30yh
Yn y bôn, arddangosfa beintio yw Distawrwydd – Y Negesydd a’r Trosiad. Mae’n cynnwys panel gesso, lliw botanegol, lliw naturiol, peintio 3-d, gosodiadau trochi, dylunio ffasiwn a thestun.
Dechreuodd y daith greadigol hon yn 2011 pan fu’r artist yn byw yn ei Stiwdio Nomadig, tryc bocs Luton wedi’i drawsnewid, a throchi mewn coetir derw hynafol yng Ngorllewin Cymru am bum mlynedd. A hithau eisiau gwneud gwaith yn llythrennol ‘o’r coetir’, dyma lle bu Sarah yn archwilio gwneud inc afal derw. Gan fyw yn ysgafn, ym myd natur, gydag ymwybyddiaeth gynyddol o gynaliadwyedd a materion ehangach llygredd plastig a newid hinsawdd, dechreuodd chwilio am ddeunyddiau cynaliadwy ar gyfer ei hymarfer creadigol.
Ehangodd yr artist ei phalet trwy chwilio am liwiau botanegol o’r amgylchedd cyfagos a datblygodd ardd ar gyfer tyfu planhigion lliwio. Mae’r holl ddeunyddiau yn yr arddangosfa hon o ffynonellau cynaliadwy a moesegol, mae cynfas wedi’i ardystio gan GOTS (Safon Tecstilau Organig Fyd-eang), mae paneli’n defnyddio pren poplys.
I Sarah, mae presenoldeb tirwedd a bod ynddi wastad wedi bod yn hanfodol i’r gwaith, yn enwedig y cefnfor a thirwedd gadeiriol hudol y goedwig. Mae’r gwaith yn yr arddangosfa hon yn ymwneud â chanfyddiad a theimlad – mynegiant haniaethol teimlad, emosiwn, sain, trawsnewid, a harddwch.
‘Dw i wastad wedi addasu technegau i fy syniadau fy hun, gan wthio sut dw i’n gweld y ffiniau a’r defnyddiau ac mae gen i ddiddordeb yn y teimladau mae’r defnyddiau’n creu. Mae’r gwaith hefyd yn ymwneud ag anadlu, am yr hyn yr ydym yn dyheu amdano, a’r gofod sy’n cael ei greu yn ein pen wrth gael ein dal yn annisgwyl gan rywbeth sy’n ein tynnu oddi wrth ein realiti corfforol am eiliad. Mae’n ymwneud â gwrando trwy dawelwch ar sut mae’r dwyfol ar waith ym mhob peth. Mae’n ymwneud â chael eich trochi mewn amgylchedd. Yn ystod y broses o wneud corff o waith rwy’n ysgrifennu, a daw teitlau fel rhan o’r broses’.
Mae gan stiwdio bresennol Sarah faddon haearn bwrw mawr awyr agored wedi’i danio â choed lle mae’n defnyddio lliw botanegol i liwio darnau o gynfas cyn peintio. Ar ôl dechrau gweithio ar gynfas heb ei ymestyn yn y stiwdio, yn ei gyfuno â’r profiad greddfol o decstilau’n hongian ar y lein ddillad, esblygodd y gwaith i’r gosodiad crog yn yr arddangosfa hon, Fforest. Gyda’r gwaith mwy, yn gobeithio ymgysylltu’n gorfforol ac yn ofodol yn ogystal â chysyniadol, gan feithrin perthnasoedd rhwng y deunyddiau a’r haniaethol, mae Fforest wedi ei ddyfeisio fel darn sy’n gallu newid ei faint i ffitio gwahanol ofodau arddangos.
Yn gynwysedig yn yr arddangosfa mae detholiadau o The Notebooks of Eurydice, testun gan Partou Zia. Rai blynyddoedd yn ôl, rhoddodd y beintiwr Richard Cook, yn Newlyn, Cernyw, gopi o lawysgrif (ers wedi’i chyhoeddi’n rannol mewn casgliad) ei ddiweddar wraig, y beintiwr Persaidd, Partou Zia, i’r artist. Mae wedi bod yn gyfaill, yn sgwrs yn ystod y broses o greu gwaith, yn ei chael yn hardd a dwys, o fath o wirionedd ac o brofiad dynol. Mae wedi helpu i ddyfnhau dealltwriaeth o’i gwaith ei hun. I Sarah, mae’n bwysig bod y gwaith yn cynnal ei gonestrwydd a bod yn glir mai sgwrs ac nid dehongliad ydyw. Tynnodd y tebygrwydd o ymagwedd at arfer a’r sanctaidd hi i fod eisiau cydweithio ag ef. Roedd Zia yn byw ar lan y môr ac mae ei hud, golau ac egni yn amlwg yn y gwaith.
Mae Sarah Poland yn byw yng Ngorllewin Cymru. Gan dyfu i fyny yn Ucheldiroedd yr Alban, graddiodd o Goleg Celf Caeredin mewn dylunio ffasiwn yn 1997, daeth yn beintiwr llawn amser ac enillodd MA mewn celfyddyd gain o Aberystwyth yn 2015. Mae hi wedi arddangos yn eang ar draws y DU gan gynnwys arddangosfa unigol Numinous Light, Dazzling Night – Oriel Q, Arberth a bu’n artist preswyl yn G.S. Artists, Abertawe yn 2019.
www.sarahpoland.co.uk
IG @sarahpolandstudio