Sgwrs artist ar-lein: Sokari Douglas Camp

Curadir Materion Materol gan Sarah Tombs gyda Sokari Douglas Camp, Lee Grandjean, Marie-Therese Ross ac Andrew Sabin.

Mae Materion Materol yn archwilio’r berthynas rhwng proses a pherthnasedd, sut mae’r cerflunydd, trwy arbrofi a thrin, yn gallu cynhyrchu gwrthrychau cerfluniol y mae eu cynnwys a’u cymhellion yn hygyrch i gynulleidfa.

Ganwyd Sokari Douglas Camp yn Buguma, Nigeria, ym 1958, ac mae’n byw ac yn gweithio yn Llundain, y DU. Arddangosodd am y tro cyntaf yn Oriel October ym 1985. Mae hi wedi cael mwy na deugain o sioeau unigol ledled y byd ac yn 2005 dyfarnwyd CBE i Douglas Camp i gydnabod ei gwasanaethau i gelf. Mae ei gwaith yng nghasgliadau parhaol Amgueddfa Genedlaethol Celf Affricanaidd, Sefydliad Smithsonian, Washington, D.C., UDA; Amgueddfa Gelf Setagaya, Tokyo, Japan; a’r Amgueddfa Brydeinig, Llundain, DU. Yn 2012, cafodd ei cherflun mawr, All the World is Now Richer, cofeb i goffáu dileu caethwasiaeth, ei harddangos yn Nhŷ’r Cyffredin ac yna, yn 2014, yn Eglwys Gadeiriol St Paul’s, Llundain.

Yn 2016, daeth Douglas Camp â cherfluniau mawr newydd at ei gilydd a oedd yn canolbwyntio ar ailddehongli ffigurau cyfarwydd o’r traddodiad clasurol Ewropeaidd fel y’u darluniwyd gan Botticelli a William Blake. ‘Europe Supported by Africa and America’ yn y V&A i ategu arddangosfa Ffasiwn Affrica. Roedd y cerflun dur anferth i’w weld yn Orielau Dorothy a Michael Hintze tan 14 Mai 2023.

Mae Douglas Camp yn trawsnewid drymiau olew ac yn llunio dur i mewn i gerfluniau ffigurol sydd yn aml wedi’i wreiddio yn niwylliant Affricanaidd lle ganwyd yr artist. Mae ei gwaith yn hynod o liwgar, ac yn defnyddio elfennau patrwm, tecstilau ac addurniadol. Yn hytrach na dylunio a thorri â laser mae Camp yn ‘arlunio’ patrymau â llaw gan ddefnyddio chwythlamp i dorri i mewn i’r llen ddur.

Disgrifia ei gwaith fel ‘y llawenydd o wneud’, fodd bynnag mae ei gwaith hefyd yn wleidyddol ac wedi’i wreiddio yn niwylliant Affricanaidd; mae ei defnydd o ddrymiau olew i greu harddwch yn ddatganiad ymwybodol ac ingol o gynhyrchiad olew Delta Niger ac mae’n un o’r lleoedd mwyaf llygredig yn y byd.

Bydd Douglas Camp yn cymryd rhan yn Ichihara Art Mix 2024 Japan.

Rhagolwg: Dydd Gwener 29 Mawrth 7yh

Arddangosfa’n parhau tan Ddydd Sadwrn 11 Mai.

Oriau agor: Dydd Mercher – Sad 11yb – 7yh